Ein cyfrifoldebau ni

Rydym yn gyfrifol am gadw'r adeiledd a’r tu allan i’ch eiddo mewn cyflwr da. Rydym hefyd yn cadw’r canlynol mewn cyflwr da...

  • Cyfarpar gwresogi a chynhesu dŵr
  • Weirio trydanol, nwy a phibellau dŵr
  • Gosodion ceginau ac ystafelloedd ymolchi

Ein hymrwymiad i waith trwsio o ansawdd

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am waith trwsio byddwn...

  • yn rhoi derbynneb i chi pan fyddwch yn rhoi gwybod fod angen gwaith trwsio
  • yn cario cardiau adnabod er mwyn i chi weld pan fyddwn yn galw i archwilio neu i wneud gwaith trwsio
  • yn rhoi manylion i chi o’r gwaith i’w wneud ac i drafod unrhyw broblemau a allai godi (er enghraifft Efallai y bydd angen i chi godi carpedi a dodrefn cyn i waith trwsio gael ei wneud)
  • rhoi gwybod i chi os na fydd modd cwblhau’r gwaith ar yr un diwrnod a gwneud trefniadau gyda chi i gwblhau’r gwaith
  • gadael cerdyn dim mynediad – er mwyn i chi gysylltu â ni os nad ydym wedi gallu cael mynediad i archwilio neu i wneud gwaith trwsio yn eich cartref

Yn ogystal â’r uchod, dylem...

  • bod yn foneddigaidd, cwrtais ac ystyrlon bob amser
  • ddim yn ysmygu yn eich eiddo heb eich caniatâd

Iawndal (Hawl i waith trwsio)

Ein nod yw cyflawni pob gwaith trwsio i safon uchel o fewn terfynau amser blaenoriaeth. Os na fyddwn wedi gwneud gwaith trwsio penodol o fewn amser penodol a'ch bod wedi rhoi mynediad rhesymol i ni, yna gallwch ddefnyddio eich 'Hawl i waith trwsio' cyfreithiol.

Mae eich cynllun ‘Hawl i waith trwsio’ yn sicrhau fod gwaith trwsio brys bach penodol, a allai effeithio ar eich iechyd, diogelwch neu sicrwydd, yn cael eu gwneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Gelwir y gwaith trwsio hwn yn ‘Waith Trwsio Cymwys' a’n cyfrifoldeb ni ydynt...

  • socedi pŵer neu olau anniogel neu osodion trydanol
  • ffliw tân agored neu foeler wedi’i rwystro 
  • to’n gollwng
  • toiledau nad ydynt yn fflysio
  • sinc, bath neu fasn wedi’i rwystro
  • pibellau dŵr, tanciau neu seston sy’n gollwng 
  • canllawiau'n rhydd neu wedi torri

Pan fyddwch yn rhoi gwybod bod angen gwneud gwaith trwsio, bydd y gwaith yn cael ei neilltuo i gontractwr. Os na fydd y contractwr cyntaf yn gwneud y gwaith trwsio mewn pryd, gallwch gysylltu â Chanolfan y Gwasanaethau Tai a gofyn i ail Gontractwr wneud y gwaith. Mae gan yr ail gontractwr yr un cyfnod i gwblhau'r gwaith trwsio â’r cyntaf.

Mae’r diwrnod gwaith yn dechrau’r diwrnod ar ôl derbyn yr adroddiad (nid yw penwythnosau yn cael eu hystyried yn ddyddiau gwaith). Os oes achos brys yn y nos ac ar benwythnosau, ffoniwch 01978 298993.

Os na fydd yr ail gontractwr yn gallu gwneud eich gwaith trwsio mewn pryd, gallwch hawlio iawndal. Am bob diwrnod ychwanegol y byddwch yn aros, byddwch yn cael taliad iawndal hyd at yr uchafswm a ganiateir. Byddwn yn talu iawndal i chi oni bai fod gennych arian yn ddyledus i ni – os oes gennych chi, byddwn yn tynnu’r swm sy’n ddyledus gennych o’r iawndal.

Gallwch holi am daflen gyda gwybodaeth am eich ‘Hawl i waith Trwsio’ gan eich swyddfa dai leol.