Rydych yn gyfrifol am fân waith trwsio, ond efallai y gallwn ni helpu os ydych yn hŷn na 60 neu ag anabledd difrifol.

Mae mân waith trwsio’n cynnwys...

  • plygiau a chadwyni ar gyfer sinciau, baths a basnau
  • seddi a gorchuddion seddi toiled
  • leiniau dillad a sychwyr dillad troelli (heb law am mewn iardiau a rennir)
  • gwaelodion gratiau o fewn 12 mis i’w adnewyddu
  • newid cloeon os oes goriadau ar goll
  • cost cael mynediad os ydych wedi eich cloi allan
  • profi larymau mwg (os oes gennych synhwyrydd mwg batri wedi ei osod rhowch wybod i ni ac mi wnawn ni drefnu i’w osod ar y prif gyflenwad trydan)

Chi sy’n gyfrifol am drwsio ac/neu gynnal unrhyw osodion rydych wedi talu amdanynt ac wedi eu gosod drosoch eich hun.

Chi sydd hefyd yn gyfrifol am wneud gwaith trwsio i’ch gosodion a ffitiadau sydd wedi eu difrodi gennych chi, unrhyw un sy’n byw gyda chi, ymwelwyr neu gontractwyr a gyflogir gennych. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddifrod a achoswyd yn ddamweiniol, drwy fod yn ddiofal, neu’n fwriadol.

Gwaith trwsio y codir tâl amdano 

Os oes rhaid i ni drwsio difrod a achoswyd gennych chi neu'r bobl rydych yn gyfrifol amdanynt, yna byddwn yn codi tâl arnoch chi am gost y gwaith (hyd yn oed os ydych chi dros 60 neu ag anabledd difrifol).

Beth os achoswyd y difrod gan ddamwain?

Chi sy’n gyfrifol am unrhyw ddifrod damweiniol. Efallai y bydd modd i chi hawlio cost trwsio'r difrod hwn yn erbyn eich yswiriant cynnwys y cartref.

Dylech holi eich cwmni yswiriant. Os na allwch chi wneud y gwaith trwsio a bod yn rhaid i ni ei wneud, byddwn yn codi tâl arnoch am y gwaith.

DIY, gwelliannau ac addurno gan denantiaid

Rhaid i chi lenwi ffurflen gais (ar gael o’ch swyddfa dai leol) a chael caniatâd gennym cyn gwneud unrhyw addasiadau neu welliannau i’ch eiddo. Bydd yr holl waith yn cael ei archwilio a rhaid i’r safon ein bodloni. Mewn perthynas â gwaith nwy a thrydanol, rhaid i hyn gael ei wneud i safon CORGI a NICEIC a rhaid i dystysgrifau gael eu cyhoeddi.

Os yw'r gwaith yn anfoddhaol, bydd yn rhaid i chi drwsio'r difrod neu ddisodli unrhyw beth anfoddhaol. Os na allwch chi wneud hyn a bod rhaid i ni wneud y gwaith, codir tâl arnoch chi.

Chi sy’n gyfrifol am addurno’r tu mewn i'ch cartref, a dylech ei gadw mewn cyflwr rhesymol a glân. Ni sy’n gyfrifol am baentio’r tu allan. 

Cadw eich cartref yn ddiogel

Codir tâl arnoch chi pan fod angen gwaith trwsio oherwydd camddefnydd, esgeulustod, neu ddifaterwch am eich cyfrifoldeb i gadw eich cartref yn ddiogel. Byddwn yn diogelu eich eiddo ac yn disodli ffenestri lle bo angen, ac yn codi tâl arnoch am hyn. 

Bydd yn rhaid i chi dalu os caiff eich goriadau eu colli neu eu dwyn a bod rhaid i ni eu disodli.

Argyfyngau

Pan rydych wedi rhoi gwybod i ni fod angen gwaith trwsio brys ac mai chi neu rywun rydych yn gyfrifol amdanynt sydd ar fai, a’n bod yn dweud wrthych ein bod yn codi tâl, byddwn fel arfer yn ysgrifennu atoch chi mor fuan â phosibl i gadarnhau’r tâl a godir.

Bydd tâl yn cael ei godi os byddwch chi’n camarwain y ganolfan alwadau i anfon crefftwyr allan am waith lle nad oes brys drwy or-bwysleisio'r brys am y gwaith trwsio. Caiff pob galwad ffôn eu recordio.

Yn ystod oriau gwaith arferol, byddwch yn cael gwybod pa bryd y bydd y crefftwr yn cyrraedd. Bydd yn rhaid i chi aros i mewn nes fod rhywun yn cyrraedd. Os na fedrwch chi aros yn eich eiddo ac os nad ydych i mewn pan fyddwn yn galw, ond nad ydych wedi gwneud unrhyw drefniadau gyda ni, efallai y bydd y gwaith yn cael ei ail-flaenoriaethu i statws lle nad oes brys yn dibynnu ar natur y gwaith.

Efallai y bydd angen mynediad arnom i'ch cartref ar unwaith os ydym yn credu fod brys.

Mynediad

Os yw swyddog trwsio neu grefftwr yn galw ac na fedrant gael mynediad byddant yn gadael cerdyn ‘dim mynediad’. Mae hwn yn gofyn i chi ateb os ydych yn dal eisiau i'r gwaith trwsio gael ei wneud.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu ein gweithwyr neu bobl a anfonwyd gennym i mewn i’ch cartref i archwilio cyflwr unrhyw ran o’r cartref cyfan; gwneud gwaith gwasanaethu neu i archwilio a chyflawni gwaith trwsio a gwelliannau i’ch cartref neu’r eiddo drws nesaf iddo.

Efallai y byddwn yn dod i’ch cartref ar unwaith os ydym yn credu fod brys. Os na fyddwch yn rhoi mynediad i ni, gallech chi fod yn peryglu eich hun neu eich cymdogion. Os achoswyd yr argyfwng gan rywbeth y gwnaethoch chi, neu berson rydych yn gyfrifol amdano, neu rywbeth na wnaethoch chi, gallwn godi tâl arnoch am y gost o'i drwsio neu unrhyw gostau cysylltiedig.

Er budd diogelwch eich cartref, mae pob un o’n staff neu gontractwyr a gyflogir gennym yn cario cardiau adnabod. Dylech holi i weld rhain cyn eu gadael i mewn i'ch cartref. Mae cynrychiolwyr cwmnïau nwy, trydan a dŵr i gyd yn cario cardiau adnabod.

Peidiwch â gadael unrhyw un i mewn heb weld cardiau adnabod swyddogol. Os oes amheuaeth gennych am unrhyw un sy’n galw yn eich cartref, peidiwch â gadael iddynt ddod i mewn. Holwch eich swyddfa dai leol yn ystod oriau swyddfa neu alw’r heddlu.

Beth os yw’r difrod wedi ei achosi gan droseddwyr?

Os ydych yn ddioddefwr trosedd a bod difrod troseddol wedi ei achosi (er enghraifft defnyddio grym i gael mynediad) rhaid i chi roi gwybod i’r heddlu a rhoi gwybod i ni hefyd. Efallai y gallwch chi hawlio ar eich Yswiriant Cynnwys y Cartref eich hun am unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd yn uniongyrchol yn sgil dwyn neu ymgais i ddwyn (defnyddio grym i gael mynediad/ gadael). Dylech holi eich cwmni yswiriant am hyn.

Pan rydych yn rhoi gwybod i’r heddlu am drosedd, byddant yn ymchwilio’r gŵyn yn drylwyr, a byddant yn erlyn unrhyw un sy’n gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol.

Bydd yn rhaid i chi roi datganiad i ni i gefnogi eich hawliad a rhaid i chi lofnodi ffurflen ddatgan, y byddwn yn ei darparu. Gellir defnyddio hyn fel tystiolaeth os darganfyddir fod eich cwyn yn un dwyllodrus, a gallai hyn beryglu eich tenantiaeth.

Beth os yw’r heddlu’n defnyddio grym i gael mynediad i’m cartref?

Efallai y bydd angen i’r heddlu ddefnyddio grym i gael mynediad i’ch cartref i ganfod neu atal trosedd. Os darganfyddir tystiolaeth o drosedd gan yr heddlu, eich cyfrifoldeb chi fel tenant yw costau unrhyw waith trwsio. Os nad oes tystiolaeth o drosedd, ni chodi’r tâl.

A ellir codi tâl arnaf pan fyddaf yn gorffen fy nhenantiaeth ac yn gadael yr eiddo?

Pan rydych yn rhoi rhybudd diweddu tenantiaeth i ni (neu’n symud i un o'n heiddo eraill), byddwn yn archwilio ac yn asesu unrhyw ddifrod. Os codi’r tâl, byddwn yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi am y costau ac yn rhoi’r cyfle i chi drwsio unrhyw ddifrod, neu dalu i ni am wneud y gwaith.

Os na fyddwn yn gallu cael mynediad nes bod yr eiddo’n wag, byddwn yn archwilio ac yn asesu unrhyw ddifrod. Byddwn yn codi tâl arnoch am  gostau unrhyw waith i drwsio difrod. Byddwn yn symud unrhyw eitemau rydych yn berchen arnynt, a byddwn yn codi tâl arnoch am y gost.

Os byddwch yn ailymgeisio am lety yn y dyfodol, bydd gostyngiad yn eich pwyntiau rhestr aros am ddyledion heb eu talu fel yr amlinellir yn ein polisi gosod. Bydd pwyntiau’n cael eu haddasu pan fyddwch yn cadarnhau fod y ddyled wedi ei setlo.

Sylwadau neu gwynion

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwynion am y modd rydym wedi ymdrin ag unrhyw dâl a godir, gallwch gysylltu â ni.

Erialau teledu cymunedol

Os yw eich teledu'n gweithredu gan ddefnyddio system erial a rennir a'ch bod yn amau fod nam, holwch eich cymdogion yn y lle cyntaf i weld os ydynt yn cael problemau gyda’u derbyniad cyn riportio’r mater.

Os oes problem, ffoniwch ni ar 01978 298993.