Mae ein Tîm Gofal Plant yn cefnogi’r sector gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae Swyddogion Gofal Plant yn cefnogi darparwyr gofal plant gyda gwybodaeth a chyngor ar:

  • Ddechrau busnes, datblygiad a chefnogaeth
  • Cynllunio camau gweithredu a materion yn ymwneud â chynaliadwyedd
  • Cyllid gofal plant
  • Cymorth cynhwysiant (i blant gydag anghenion ychwanegol ac anableddau)
  • Hyfforddiant staff a chymwysterau
  • Gwella ansawdd a hunanwerthuso
  • GDG a materion cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Trefniadau llywodraethu a chofrestru priodol gyda’r Comisiwn Elusennau, CThEM a sefydliadau perthnasol eraill
  • Y Cynnig Gofal Plant yn cynnwys cofrestru ac arweiniad ar ddarparu’r cynnig

Gall ein Swyddogion Gofal Plant hefyd ddarparu cyngor a chymorth i rieni a theuluoedd sy’n defnyddio’r lleoliadau.  

Rhagor o gyfrifoldebau’r tîm

Mae’r Rheolwr Tîm Cynorthwyol ar gyfer Gofal Plant yn gyfrifol am gynhyrchu’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant, yr adolygiad blynyddol a gweithredu a monitro’r Cynllun Gweithredu Gofal Plant - a gefnogir gan y Bartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.

Caiff y Bartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ei chadeirio gan Bennaeth y Gwasanaethau Addysg ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr lleol o:  

  • bartneriaid Cwlwm
  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam 
  • Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Ein Swyddogion Addysg a Chwarae 
  • Ein Rheolwr Tîm Cynorthwyol ar gyfer Gofal Plant. 

Darperir rhaglen Hyfforddiant Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant i’r gweithlu Blynyddoedd Cynnar / Gofal Plant drwy Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam a’r Tîm Gofal Plant. Mae’r hyfforddiant yn ymatebol i anghenion y sector gofal plant ac yn cynnig cyfleoedd i’r gweithlu gofal plant barhau â datblygiad proffesiynol yr holl ymarferwyr gofal plant. 

Cysylltu â’n Tîm Gofal Plant

E-bost: childcareteam@wrexham.gov.uk

Gallwch hefyd ffonio rhif ffôn GGiDW.