Faint fydd rhaid i mi ei dalu?

Mae’n dibynnu ar fand eich eiddo, sy’n cael ei benderfynu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n prisio pob eiddo domestig yng Nghymru a Lloegr ac yn gosod eiddo mewn un o naw band. Mae’r VOA yn asiantaeth annibynnol ac nid yw’n rhan o’r Cyngor.

Mae’r VOA wedi cyfrifo gwerth eich band ar sail prisiau eiddo ar 1af Ebrill 2003. Gelwir hwn yn ‘ddyddiad prisio’. Mae’r dyddiad gosod yn sicrhau bod pob eiddo yn cael ei asesu ar amser penodol, gan sicrhau system decach i bawb.

Mae’r VOA yn cymryd i ystyriaeth maint, oedran, cymeriad a lleoliad eich eiddo a data gwerthiant o amgylch y dyddiad prisio i benderfynu ar y band cywir. Os adeiladwyd eich eiddo ar ôl 1af Ebrill 2003, bydd y VOA yn gosod eich eiddo mewn band yn seiliedig ar beth fyddai ei werth ar y dyddiad hwnnw yn defnyddio data gwerthiant cymharol.

Mae gan bob band eiddo ystod o werthoedd ac mae’r swm yr ydych yn ei dalu mewn gwirionedd yn dibynnu ar y band y mae’ch eiddo wedi’i osod ynddo. Mae’r bandiau hyn yn amrywio o ‘A i I’ - ‘A’ yw’r gost isaf ac ‘I’ yw’r gost uchaf. Dangosir y bandiau eiddo a gwerthoedd ar gyfer Cymru yn y tabl isod.

Sut caiff fy eiddo ei brisio?
BandYstod o werthoedd
AO dan £44,000
B£44,001 - £65,000
C£65,001 - £91,000
D£91,001 - £123,000
E£123,001 - £162,000
F£162,001 - £223,000
G£223,001 - £324,000
H£324,001 - £424,000
I£424,001 a throsodd

Os ydych yn teimlo fod eich eiddo yn y band anghywir, neu os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am sut y cafodd eich eiddo ei brisio, ewch i wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (dolen gyswllt allanol).

Bandiau Treth y Cyngor 2024/2025

Ar beth mae fy arian yn cael ei wario?
2024/2024 Gwariant Crynswth £Gwasanaeth2025/2026 Gwariant Crynswth £
56,672,324Amgylcheddol a Thechnegol61,657,140
44,834,708Tai ac Asedau42,450,052
131,886,069Gwasanaethau Cymdeithasol142,447,435
157,171,495Plant a phobl ifanc168,150,200
38,167,848Gwasanaethau Corfforaethol Canolog ac eraill47,608,333
428,732,444Cyfanswm yr holl wasanaethau462,313,160
159,650Cymorth Diamod129,650
428,892,094Cyfanswm Cyllid y Cyngor462,442,810
65,785,000Cyfrif Refeniw Tai67,166,000
494,677,094Cyfanswm Gwariant Crynswth529,608,810
O le mae’r arian yn dod?
2024/2025 Incwm £O ble daw’r arian2025/2026 Incwm £
110,222,209Ffioedd,taliadau a grantiau117,294,590
65,785,000Renti Tai67,166,000
231,962,589Cyllid Llywodraeth Cymru249,510,808
407,969,798Cyfanswm Incwm433,971,398
86,707,296Yr hyn sydd ar ôl i’w dalu gan y Dreth Gyngor95,637,412
176,300Llai’r swm a godir o dreuliau arbennig162,621
86,530,996Swm a godir gan y Dreth Gyngor gyffredinol95,474,791
54,260Rhennir â: Sail Trethi (cyfwerth â Band D)54,656
1,594.75Tâl cyffredinol ym Mand D1,746.83