Ar ôl i chi ein ffonio ar 01978 292947 (neu 01978 292039 os ydych dan 18 oed), ac os ydych yn gymwys byddwn angen cadarnhau eich bod yn ddigartref neu mewn perygl, cyn penderfynu ar ba fath o gymorth y gallwn ei roi i chi.

Cewch gyfweliad gyda Swyddog Dewisiadau Tai a fydd yn gofyn i chi am eich amgylchiadau personol a’ch sefyllfa cyfredol o ran tai. Y rheswm dros hyn yw er mwyn i’r swyddog ddeall eich sefyllfa ac edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i’ch helpu.

Yn ystod eich cyfweliad, bydd eich Swyddog Dewisiadau Tai yn asesu i weld os oes gennych angen blaenoriaethol, cysylltiad lleol, ac os ydych yn fwriadol ddigartref (lle bo’n berthnasol). 

Os ydych mewn perygl o ddod yn ddigartref

Os yw eich swyddog Dewisiadau Tai yn eich asesu ac yn fodlon eich bod mewn perygl o ddod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod, a'ch bod yn gymwys am help, byddwn yn ceisio helpu eich hatal rhag dod yn ddigartref. Gall hyn fod drwy eich helpu...

  • I aros yn eich llety cyfredol
  • Yn oedi symud allan o’ch llety cyfredol er mwyn caniatáu symud sydd wedi’i gynllunio i lety arall;
  • Edrych ar lety arall; a/neu
  • Cynnal byw'n annibynnol

Os ydych yn ddigartref

Os yw eich Swyddog Dewisiadau Tai yn eich asesu ac yn fodlon eich bod yn ddigartref, a’ch bod yn gymwys am gymorth, mae gofyn i ni eich helpu i sicrhau cartref addas. Gallwn eich helpu drwy ddarparu llety dros dro yn y tymor byr. 

Byddwn wedyn yn ceisio eich helpu i ddod o hyd i lety parhaol, a gall hyn fod mewn ffurf...

  • Cynnig llety’r Cyngor i chi
  • Eich helpu i sicrhau cynnig parhaol o denantiaeth gyda chymdeithas dai 
  • Eich helpu i sicrhau cynnig tenantiaeth yn sector rhentu preifat.

Angen Blaenoriaethol

Efallai bydd gennych angen blaenoriaethol am help os ydych...

  • Yn ferch beichiog neu yn byw gyda, neu a ddisgwylir i chi’n rhesymol fyw gyda merch beichiog
  • Gyda plentyn dibynnol yn byw gyda chi neu a fyddai'n rhesymol disgwyl iddynt fyw gyda chi
  • Yn fregus oherwydd rheswm arbennig (fel hŷn, salwch corfforol neu feddyliol, neu anabledd corfforol neu feddyliol)
  • Yn ddigartref neu dan fygythiad i ddod yn ddigartref o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall
  • Yn ddigartref o ganlyniad o fod yn destun camdriniaeth domestig.
  • Yn 18 oed ond o dan 21 oed, ac mewn perygl penodol o gael eich ecsbloetio’n rhywiol neu’n ariannol, neu eich bod yn gadael y gwasanaeth Gofal
  • Wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog rheolaidd ac wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd
  • Wedi cael eich asesu fel bod gennych gysylltiad gyda Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac wedi eich asesu yn fregus am eich bod wedi cael dedfryd o garchar neu eich remandio i garchar pobl ifanc.

Os ydych yn ddigartref, yn gymwys ac gydag angen blaenoriaethol yna mae’n rhaid i ni wneud siŵr eich bod yn cael cynnig o lety dros dro addas tra ein bod yn cyflawni ymholiadau pellach.

Cysylltiad Lleol

Bydd eich Swyddog Opsiynau Tai yn siarad â chi, ac ar ôl trafod eich sefyllfa yn penderfynu os oes gennych gysylltiad lleol.

Os oes gennych gysylltiad lleol gydag ardal Cyngor arall, ond heb gysylltiad lleol gyda Wrecsam, efallai y byddwn yn cyfeirio eich cais digartrefedd i’r Cyngor arall.

Fodd bynnag, os nad oes gennych unrhyw gysylltiad lleol yn unlle, ac yn gofyn i ni am help, yna efallai yr ystyrir rhoi cymorth i chi/ cymryd cyfrifoldeb drosoch chi.

Yn ddibynnol ar ein penderfyniad, efallai bydd gennych hawl am lety dros dro neu barhaol.

Bwriadol ddigartref

Efallai y cewch eich ystyried yn fwriadol digartref os ydych yn gadael neu wedi cael eich gorfodi i adael llety y byddech wedi disgwyl i aros yno, ond mi wnaethoch chi adael o ganlyniad i rywbeth y gwnaethoch chi neu wnaethoch chi fethu ei wneud.  Mae hyn yn cynnwys os:

  • Gwnaethoch roi gorau i'r llety yn wirfoddol, naill yn y DU neu dramor, a byddai wedi cael ei ystyried yn rhesymol i chi barhau i fyw yno; 
  • Yn cael eich troi allan am ôl-ddyledion neu forgais, mewn amgylchiadau lle nad oes rheswm da am beidio â thalu;
  • Yn cael eich troi allan am ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis aflonyddu neu delio â chyffuriau;
  • Dewis gwerthu eich cartref heb reswm da;
  • Dewis rhoi gorau i weithio, a oedd yn cynnwys llety, heb reswm da

Os y cewch yn gymwys ac yn angen blaenoriaethol, ond yn fwriadol digartref, efallai byddwn yn gallu darparu llety dros dro i roi cyfle rhesymol i chi i sicrhau llety i chi eich hunain, a rhoi cyngor os bydd angen.     

Darparu llety

Llety Dros Dro

Os ydych yn gymwys am gymorth, yn ddigartref ac chyda angen blaenoriaethol, mae gennym ddyletswydd i ddarparu llety dros dro i chi.

Os ydych yn anfwriadol ddigartref, gydag angen blaenoriaethol a chyda cysylltiad lleol gyda Chyngor Bwrdeistref Wrecsam, mae gennym ddyletswydd i ddarparu llety dros dro.

Mewn achosion penodol, efallai byddwn hefyd yn gallu darparu llety dros dro tra bydd Swyddogion Dewisiadau Tai yn parhau i asesu eich cais ( i benderfynu os ydych yn ddigartref, yn gymwys am gymorth a gydag angen blaenoriaethol).

Os ydych ag angen blaenoriaethol, efallai cewch lety dros dro tra byddwn yn edrych ar eich achos ymhellach.

Gallai llety dros dro fod yn...

  • Llety dros dro gan y Cyngor
  • Gwely a Brecwast
  • Llety mewn Hostel
  • Llety a Rennir

Tra ein bod yn cynorthwyo i ddarparu llety dros dro, gallai ein dyletswydd i ddarparu hyn ddod i ben os ydych yn torri cytundeb y cynllun tai a roddir i chi (efallai cewch hysbysiad i adael y llety).

Os ydym yn canfod nad oes gennych angen blaenoriaethol, nid oes gennym ddyletswydd cyfreithiol i ddarparu llety dros dro i chi. Cewch wybod am y penderfyniad hwn yn ysgrifenedig a byddwn yn cynnig cyngor/ cymorth i geisio eich helpu i ddod o hyd i lety eich hun.

Llety Parhaol

Tra y gallwn ddarparu llety dros dro i atal neu wella digartrefedd yn y tymor byr, lle bo’n briodol gallwn eich helpu i ddod o hyd i lety parhaol addas. 
Gall lety parhaol fod yn ffurf...

  • Tenantiaeth cyngor parhaol
  • Tenantiaeth cymdeithas tai parhaol
  • Tenantiaeth Sector Rhentu Preifat

Bydd ein dyletswydd i chi yn dod i ben os ydych: 

  • Yn derbyn cynnig am denantiaeth parhaol gan y Cyngor;
  • Yn derbyn cynnig am denantiaeth parhaol gyda chymdeithas dai
  • Yn derbyn cynnig am denantiaeth gyda sector rhentu preifat
  • Yn gwrthod cynnig o lety addas  

Fodd bynnag, mae gennych hawl i apelio o fewn 21 diwrnod os ydych yn anghytuno gydag addasrwydd y llety a gynigir i chi.

Tra ein bod yn asesu addasrwydd y cynnig, efallai gallwn barhau i ddarparu llety dros dro i chi.

Os cewch denantiaeth ar sail unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol yr ydych wedi’i ddarparu, gallwn gymryd camau cyfreithiol i ddod â'r tenantiaeth i ben.

Os nad ydych yn gymwys i gael eich ailgartrefu drwyddo ni, gallwn dal roi cyngor i chi ynghylch beth allwch wneud nesaf a'ch cyfeirio at sefydliadau eraill a all eich helpu.