Mae gennych hawl i wneud cais am adolygiad o'n penderfyniad, os ydym wedi penderfynu:

  • Nad ydych yn ddigartref
  • Nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth 
  • Nad ydych yn angen blaenoriaethol
  • Eich bod yn fwriadol ddigartref
  • Nad oes gennych gysylltiad lleol

Hefyd gallwch apelio os ydym wedi penderfynu atgyfeirio eich cais i awdurdod lleol arall, neu eich bod yn anghytuno ag addasrwydd cynnig llety.

Sut i wneud cais am adolygiad

Mae’n rhaid gwneud cais am adolygiad o unrhyw benderfyniad o fewn 21 diwrnod o ddyddiad y cawsoch y penderfyniad. Gallwch wneud cais am adolygiad drwy naill ai anfon e-bost at HousingOptionsTeam@wrexham.gov.uk, drwy ffonio 01978 292947, neu ysgrifennu at ‘Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL13 7TU’.

Gofynnir i chi nodi yn glir eich rhesymau am wneud cais am adolygiad yn ysgrifenedig a chewch wybod am y weithdrefn apelio.  Os ydych yn credu y byddwch angen cymorth gyda’r broses hon, gallwch gysylltu â naill ai Shelter, Canolfan Cyngor Ar Bopeth neu gyfreithiwr o'ch dewis eich hun.

Pan fyddwn yn adolygu penderfyniad, byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd gennych chi neu ar eich rhan.

Os ydych yn methu â chyflwyno gwybodaeth manwl ychwanegol, bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu ar sail yr holl wybodaeth a ddarparwyd eisoes.

Fel arfer mae'n rhaid i ni ddod i benderfyniad o fewn wyth wythnos o ddyddiad eich cais.