Pan rydych eisiau symud allan o eiddo yr ydych yn ei rentu, mae angen i chi ddod â’r cytundeb tenantiaeth i ben yn y ffordd gywir. Mae hyn fel arfer yn golygu rhoi rhybudd ysgrifenedig i’ch landlord yn nodi eich bod eisiau dod â’r cytundeb tenantiaeth i ben. 

Os nad ydych yn terfynu'r cytundeb yn gywir, gallech fod yn gyfrifol am dalu’r rhent hyd yn oed ar ôl i chi symud allan.

Mae’r rheolau o ran sut i ddod â’ch cytundeb tenantiaeth i ben yn dibynnu ar y cytundeb ac os yw’n gytundeb cyfnod penodol neu gyfnodol. Os oes gennych gyd-denantiaeth bydd hyn hefyd yn effeithio ar sut y gellir terfynu’r cytundeb.

Dod â thenantiaeth cyfnod penodedig i ben

Os yw eich cytundeb am gyfnod penodol (er enghraifft chwe mis), gallwch adael ar ddiwrnod olaf y cyfnod penodol heb roi rhybudd. 

Yn gyfreithiol, nid yw’n ofynnol arnoch i roi unrhyw rybudd i’ch landlord os ydych yn bwriadu gadael ar ddiwrnod olaf cyfnod penodol. Fodd bynnag, mae fel arfer yn syniad da i roi rhybudd beth bynnag, er mwyn i chi allu osgoi unrhyw anghydfod o ran pryd y gwnaethoch adael. 

Os ydych yn aros heibio diwrnod olaf y cyfnod penodol, byddwch yn newid i denant cyfnodol yn awtomatig (os nad ydych wedi cytuno ar gontract cyfnod penodol newydd gyda’ch landlord). Mae’n rhaid dod â thenantiaethau cyfnodol i ben mewn ffordd wahanol i denantiaethau cyfnod penodol.

Dod â thenantiaeth cyfnod penodol i ben yn fuan

Mae llawer o gytundebau cyfnod penodol (yn cynnwys rhai tenantiaethau byrddaliad sicr) yn cynnwys ‘cymal terfynu’ sy’n caniatáu i chi derfynu'r cytundeb cyn diwedd y cyfnod penodol. Gwiriwch eich cytundeb i weld os yw’n cynnwys cymal fel hyn.

Os yw’n cynnwys cymal terfynu, fe ddylai hefyd nodi faint o rybudd sy’n rhaid i chi ei roi ac os oes unrhyw weithdrefnau arbennig sy’n rhaid i chi eu dilyn. 

Os nad yw’n cynnwys cymal terfynu, yna ni allwch ddod â thenantiaeth i ben yn fuan oni bai bod y landlord yn cytuno. Os ydych dal yn penderfynu gadael gallech fod yn gyfrifol am dalu’r rhent hyd at ddiwedd y cyfnod. 

Dod â thenantiaeth gyfnodol i ben

Os ydych yn aros heibio’r cyfnod penodol, ac nid yw eich landlord yn rhoi cytundeb cyfnod penodol newydd i chi, bydd eich tenantiaeth yn newid yn awtomatig i denantiaeth gyfnodol. Mae hyn yn golygu bod eich tenantiaeth yn mynd o wythnos i wythnos neu o fis i fis.

Fel arfer, mae’n rhaid i chi roi rhybudd o bedair wythnos o leiaf os ydych am ddod â thenantiaeth gyfnodol i ben, neu un mis calendr os oes gennych denantiaeth fisol. Yr unig eithriadau i’r rheol uchod yw:

  • os yw eich landlord yn cytuno i dderbyn cyfnod rhybudd byrrach (ildio), neu’n cytuno y gall rhywun arall gymryd eich lle 
  • os ydych yn feddiannydd gwaharddedig, os felly, bydd y cyfnod rhybudd yn dibynnu ar os oes gennych denantiaeth neu gytundeb trwyddedu
  • os nad ydych yn gallu cytuno ar ddyddiad yr ydych chi a’r landlord yn fodlon ag ef
  • os ydych yn talu rhent yn llai aml na bob mis (bob tri mis er enghraifft). Os felly, mae’n rhaid i chi roi rhybudd cyfwerth â’r cyfnod rhentu. 

Mae bob amser yn well cyflwyno rhybudd yn ysgrifenedig a sicrhau bod y rhybudd yn gorffen ar ddiwrnod cyntaf neu olaf y cyfnod tenantiaeth.

Dod â chyd-denantiaeth i ben

Mae gennych gyd-denantiaeth os yw eich enw chi ac enw unigolyn arall ar y cytundeb. 

Bydd gweithredoedd unigol bob tenant yn effeithio ar hawliau’r ddau denant, er enghraifft os yw un ohonoch: 

  • yn rhoi rhybudd i’r landlord, bydd y cytundeb fel arfer yn dod i ben yn awtomatig ar gyfer y ddau denant (ni fydd gan yr un ohonoch yr hawl i barhau i fyw yno) 
  • yn gadael heb roi rhybudd, bydd y rhent cyfan yn parhau i fod yn ddyledus a bydd yn rhaid i’r tenant arall dalu rhan yr unigolyn coll

Os ydych yn ystyried gadael, sicrhewch eich bod yn siarad â’ch cyd-denant cyn gweithredu. Efallai y byddai’n bosibl i rywun arall gymryd eich lle, neu i’r landlord lunio cytundeb newydd ar gyfer y rhai sydd yn aros. Sicrhewch bod y landlord yn rhoi tenantiaeth neu gytundeb trwyddedu newydd i’r unigolyn newydd – fel arall, byddwch yn dal yn gyfrifol yn gyfreithiol am y denantiaeth. 

Gadael gyda chaniatâd y landlord

Mae’n bosibl gadael tenantiaeth ar unrhyw adeg os ydych yn gallu dod i gytundeb ar y cyd â’ch landlord. Gelwir hyn yn ‘ildio’ tenantiaeth.

Er mwyn bod yn ddilys, mae’n rhaid i’r ddwy ochr gytuno ac mae bob amser yn well nodi’r hyn a gytunwyd arno yn ysgrifenedig. Os oes gennych gyd-denantiaeth, mae’n rhaid i’r holl gyd-denantiaid cytuno ar ildio.

Mae’n werth gweld os yw eich landlord yn fodlon trafod, hyd yn oed os yw eich cytundeb tenantiaeth yn dweud na chewch adael yn fuan – efallai y byddai’n gyfleus i’r ddau ohonoch.

Cael rhywun arall i gymryd eich lle

Gall hyn fod yn bosib os nad oes gennych unrhyw ddewis arall ond gadael yn fuan ac eich bod eisiau osgoi gorfod talu rhent ar fwy nag un eiddo. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r landlord fod yn gytûn er mwyn i’r unigolyn yr ydych wedi’i awgrymu allu symud i mewn i’r eiddo. 

Dylai’r landlord roi tenantiaeth neu gytundeb trwyddedu newydd i’r unigolyn newydd – fel arall, byddwch yn dal yn gyfrifol yn gyfreithiol am y denantiaeth.

Gadael

Ystyr ‘gadael’ yw cerdded i ffwrdd neu bostio’r allweddi drwy’r blwch llythyrau ac nid yw hyn yn terfynu eich cytundeb. Os ydych yn gwneud hyn, bydd eich cytundeb gyda’r landlord yn parhau er eich bod wedi gadael. Mae hyn yn golygu y gall y landlord barhau i godi rhent arnoch, felly rydych yn debygol o fynd i ddyled.

Gallai eich landlord wneud cais am orchymyn llys er mwyn eich gorfodi i dalu'r hyn sy’n ddyledus. Os yw hyn yn digwydd, y llys sy’n penderfynu a ddylech orfod talu’r arian i’ch landlord ai peidio. Os yw’r landlord yn llwyddo i osod yr eiddo, nid yw’n gallu hawlio rhent gennych chi ar ôl i’r tenant newydd symud i mewn. 

Gallai gadael hefyd ei gwneud yn anoddach i chi ganfod cartref newydd – mae’r rhan fwyaf o landlordiaid preifat yn gofyn i denantiaid newydd am eirdaon gan landlordiaid blaenorol. Ni fydd landlordiaid yn awyddus i rentu eiddo i unrhyw un sydd wedi gadael tenantiaeth yn flaenorol. 

Mae hefyd yn bwysig sicrhau fod gennych rywle i fynd iddo pan rydych yn gadael. Os ydych angen gwneud cais digartrefedd ar ôl gadael, mae’n bosib y penderfynir eich bod yn fwriadol ddigartref oherwydd i chi adael cartref y gallech fod wedi aros ynddo.