Rydym ni’n ceisio gwneud ein gwasanaeth yn haws i bobl ei ddefnyddio, gan gynnwys y rheiny gydag anabledd neu sy’n dymuno cyfathrebu mewn iaith wahanol i Gymraeg neu Saesneg. Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall yr wybodaeth rydym ni’n ei darparu yn hawdd. Mae arnom ni hefyd eisiau i chi roi gwybod i ni beth ydych chi’n feddwl o’n gwasanaeth a sut gallwn ni ei wella.

Ein nod yw trin pawb yn deg er mwyn i bawb dderbyn yr un lefel o wasanaeth, beth bynnag fo’u hoed, anabledd, rhyw, hil, ffydd neu gyfeiriadedd rhywiol. Byddwn yn trin pawb â pharch ac wrth gynllunio gwasanaethau newydd neu ddatblygu polisïau newydd, byddwn yn ceisio ystyried anghenion pawb, gan gynnwys y rheiny sy’n gofalu am eraill. Byddwn yn edrych ar ein gweithdrefnau i wirio a ydyn nhw’n deg ac yn eu newid os nad ydyn nhw. 

Dogfennau