Beth ydi gwaith y Panel Seibiant Anabledd a Gofal Plant?

Mae ein Panel Seibiant Anabledd a Gofal Plant yn ystyried ceisiadau i ariannu lleoedd gofal plant yn fyrdymor, cymorth ‘Dwylo Ychwanegol’ ar gyfer lleoliadau gofal plant a lleoedd seibiant er mwyn:

  • gwella lles a gwytnwch teuluoedd plant sydd ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol
  • caniatáu i rieni plant sydd ag anableddau a/neu anghenion ychwanegol weithio 

Mae’r panel yn cyfarfod yn fisol ac mae’n rhaid i geisiadau am gyllid gael eu cyflwyno erbyn diwrnod gwaith olaf y mis cyn dyddiad y panel. Mae’r cyllid gwastad yn gyllid dros dro ac ond yn cael ei ddyrannu fel mae’r gyllideb yn caniatáu.

Mae’r panel hefyd yn ystyried ceisiadau am gefnogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol i blant sy’n derbyn Cynnig Gofal Plant Cymru ac sydd ag anabledd a/neu angen ychwanegol.

Meini prawf a chanllawiau lleoliadau gofal plant

Diffiniad ‘Anabledd neu Angen Ychwanegol’ yw: anabledd, angen iechyd cymhleth neu angen ychwanegol sy’n debygol o bara mwy na 12 mis ac sy’n cael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd (gellir ei ystyried heb ddiagnosis).

Mae disgwyl i blant sydd ag anghenion ychwanegol gael eu cefnogi’n barod gan nifer o wahanol sefydliadau a dylid rhestru’r rheiny ar y ffurflen gais. Bydd gofyn am ddatganiadau ategol gan y sefydliadau hyn cyn i’r panel gyfarfod.

Ni fydd ceisiadau ond yn cael eu derbyn gan unigolion proffesiynol sy’n gweithio gyda’r teulu (e.e. darparwr gofal plant, gweithiwr gofal iechyd). 

Beth yw’r meini prawf ar gyfer cyllid?

Bydd ceisiadau i’r Panel Seibiant Anabledd a Gofal Plant yn cael eu hystyried i ganiatáu i blant rhwng 0 a 19 oed sydd ag anabledd a/neu angen ychwanegol gael gofal plant, pan...

1. Mae angen y gofal plant er mwyn lles y plentyn/teulu, neu os yw’r rhieni’n methu â gweithio heb gymorth Dwylo Ychwanegol ar gyfer lleoliad gofal plant, ac 
2. Nad yw’r rhiant yn gallu fforddio’r ffioedd gofal plant neu gymorth Dwylo Ychwanegol sydd ei angen er mwyn i’r plentyn ei dderbyn, ac 
3. Mae’r lleoliad wedi cymryd pob cam rhesymol i gwrdd ag anghenion y plentyn ac nad yw’n gallu cwrdd ag anghenion y plentyn heb gyllid ychwanegol

Nid ydym yn gallu cymeradwyo cyllid ar gyfer Dwylo Ychwanegol pan mae’r plentyn eisoes yn derbyn cyllid tebyg neu wasanaethau tebyg gan asiantaeth arall. Nid ydym yn gallu cymeradwyo cyllid ar gyfer lleoliadau gofal plant pan mae’r teulu’n derbyn cyllid gofal plant o ffynonellau eraill at yr un diben.

Faint o gyllid sy’n cael ei gynnig?

Fe allai’r cyllid ar gyfer gofal plant a gaiff ei gynnig drwy'r panel hwn gyfrannu (os oes angen):

  • hyd at £4.50 yr awr tuag at gostau lleoedd gofal plant ar gyfer rhieni na fyddai fel arall yn gallu fforddio’r ffioedd, gydag uchafswm o bum awr neu £22.50 y dydd (pa un bynnag sydd leiaf). Ni fydd yr arian a ddarperir fesul awr yn fwy na chyfradd bob awr arferol y lleoliad, a bydd nifer y sesiynau sy’n cael eu hariannu’n gyfyngedig i 12 fel arfer.
  • £10 yr awr tuag at gostau cyflogi aelod ychwanegol o staff a fydd yn weithiwr cynhwysiant ar gyfer plentyn neu blant penodol (Dwylo Ychwanegol). 

Faint o oriau yr wythnos all y cyllid fynd tuag atynt?

Mae uchafswm yr oriau yr wythnos y gall y cyllid ddarparu tuag at gost cyflogi aelod ychwanegol o staff wedi ei rannu fel hyn...

Cyllid Dwylo Ychwanegol – Cynnig Gofal Plant

Yn ystod y tymor  

Plant tair blwydd oed (Addysg Gynnar) - uchafswm o 20 awr yr wythnos

Tair i bedair oed (Meithrin y Cyfnod Sylfaen) – uchafswm o 17.5 awr yr wythnos

Gwyliau ysgol

Uchafswm o 30 awr (tair i bedair oed) yr wythnos

Bydd y cyllid yn darparu ar gyfer cyfnod y cynnig gofal plant yn ei gyfanrwydd

Cyllid Dwylo Ychwanegol – i alluogi rhieni i weithio

Uchafswm o 10 awr yr wythnos am 13 wythnos neu un tymor ysgol

Cyllid Dwylo Ychwanegol – i hyrwyddo lles a gwytnwch teuluoedd

Uchafswm o un sesiwn yr wythnos (wyth awr i bob sesiwn) am 13 wythnos neu un tymor ysgol

A all y cyllid gael ei dynnu'n ôl?

Os yw’r plentyn yn colli tair sesiwn o ofal plant wedi’i ariannu, y lleoliad sy’n gyfrifol am roi gwybod am hyn i weinyddwr y panel ac fe all y cyllid a gynigir gael ei atal ar ôl y trydydd sesiwn a gollir. Bydd angen gwneud cais newydd am unrhyw gyllid yn y dyfodol. Bydd Staff Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn cynnal gwiriadau ar hap.

Cyflogi staff Dwylo Ychwanegol

Os caiff y cyllid Dwylo Ychwanegol ei gymeradwyo, caiff yr aelod staff ychwanegol ei gyflogi gan y lleoliad gofal plant ei hun a bydd yn atebol i’r lleoliad hwnnw hefyd. Y lleoliad sy’n gyfrifol am dalu costau cyflogaeth ychwanegol sydd heb eu cynnwys yn y cynllun hwn. Y lleoliad sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gweithiwr yn gymwys ac wedi ei wirio drwy broses recriwtio ddiogel a phriodol. Bydd angen i’r lleoliad hefyd sicrhau bod y gweithiwr yn gweithio o fewn cwmpas eu polisïau, gweithdrefnau ac unrhyw ofynion cyfreithiol ychwanegol.

Apeliadau

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y panel os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.

Gallwch ofyn am ffurflenni apelio drwy anfon neges at paneladmin@wrexham.gov.uk. Pan fydd y ffurflen wedi ei chwblhau, dychwelwch hi mewn e-bost at paneladmin@wrexham.gov.uk.

Rhaid i unrhyw apêl ddangos yn glir y rheswm dros wrthod penderfyniad y panel. Bydd rhaid cynnwys gwybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth nad yw wedi ei chynnwys yn y ffurflen gais wreiddiol i gefnogi eich cais er mwyn i’r apêl gael ei hystyried.

Rhaid i apeliadau gael eu derbyn erbyn y dydd Iau cyn cyfarfod y panel. Bydd unrhyw rai a gaiff eu derbyn ar ôl hynny yn cael eu hystyried yng nghyfarfod dilynol y panel.

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad yr apêl, gallwch gyflwyno cwyn drwy weithdrefn gwyno gyffredinol y cyngor.