Nifer cyfyngedig o dai sydd gennym ac rydym yn eu gosod yn nhrefn blaenoriaeth ar sail anghenion tai.
Os oes rhywun yn dod yn denant i’r Cyngor drwy dwyll neu’n is-osod tŷ Cyngor er budd eu hunain, maent yn camddefnyddio adnoddau prin a ddylai fod ar gael i’r bobl hynny sydd fwyaf mewn angen.
Gall twyll tenantiaeth gynnwys...
- rhoi gwybodaeth anghywir wrth wneud cais am dŷ neu wneud datganiadau ffug o ran manylion adnabod neu amgylchiadau
- is-osod yr eiddo i eraill yn llwyr neu’n rhannol
- peidio â defnyddio’r eiddo fel prif gartref
- mynnu hawl olynu ar gam – mae olyniaeth yn golygu cadw tenantiaeth wedi i’r tenant blaenorol farw neu ymadael
- ‘gwerthu allweddi’ – mae hyn yn golygu ymadael ag eiddo a throsglwyddo’r allweddi i rywun arall yn gyfnewid am arian neu ffafr
Bydd y Cyngor yn cymryd unrhyw achosion o is-osod anghyfreithlon a chamddefnyddio tenantiaeth o ddifrif ac yn ymchwilio’n llawn iddynt. Bydd yn cymryd camau gweithredu’n fuan os bydd angen.
Byddwn yn ymchwilio i unrhyw wybodaeth a ddarperir inni er mwyn ei wirio, pan fydd angen. Gallwn hefyd rannu gwybodaeth a ddarperir inni gyda nifer o adrannau’r Cyngor er mwyn cymharu a gwirio manylion, a gyda sefydliadau eraill fel yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Byddwn yn cymryd camau cyfreithiol i derfynu unrhyw denantiaeth a roddwyd o ganlyniad i ddatganiadau ffug neu gamarweiniol gan y tenant neu denantiaid.
Rhowch wybod i ni
Os ydych chi’n amau fod rhywun yn cyflawni twyll tenantiaeth, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod inni fel y gallwn ymchwilio’n llawn i’r sefyllfa. Gallwch wneud hyn drwy...
- Lenwi’r ffurflen adrodd am dwyll ar-lein
- E-bostio stampoutfraud@wrexham.gov.uk
- Cysylltu â’ch swyddfa dai leol neu fynd yno’n bersonol.