Mae’r Sector Cyhoeddus yn y DU yn cynnwys cynghorau lleol, y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau brys a sefydliadau sydd yn darparu addysg bellach ac uwch, er enghraifft.
Mae gan bob maes o'r sector cyhoeddus gyllideb sylweddol i brynu unrhyw nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen.
Mae bron pob busnes (newydd a sefydledig) yn cael y cyfle i ennill gwaith gyda’r sector cyhoeddus drwy hysbysiad contract a elwir yn ‘dendr agored’.
Os yw eich busnes yn gymharol fach mewn maint, nid yw hyn yn golygu na fydd modd i chi gystadlu gyda busnesau mwy i ennill contract i ddarparu nwyddau neu wasanaethau.
Pam cyflenwi'r sector cyhoeddus?
Mae llawer o fanteision i gyflenwi i sefydliad yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys:
- helpu i warantu gwaith (a allai helpu eich busnes i dyfu)
- risg lleiaf posibl (mae sefydliadau sector cyhoeddus yn gweithio’n unol â chanllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn deg, yn agored ac yn onest â chyflenwyr)
- taliadau prydlon (a all helpu eich busnes o safbwynt llif arian)
- gwella canfyddiad darpar gleientiaid o'ch busnes
Dod o hyd i gyfleoedd a chontractau tendro sector cyhoeddus
Os hoffech chi ennill gwaith gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru gallwch nodi cyfleoedd ar borth contractau GwerthwchiGymru. Yma hefyd gallwch gofrestru i glywed am gyfleoedd tendro sydd o ddiddordeb i chi pan fydd rhai ar gael.
Mae ein hadran gaffael yn rheoli contractau a ddyfernir gan Gyngor Sir Wrecsam. E-bost: procurement@wrexham.gov.uk
Cefnogaeth dendro
Dogfennau
Pwrpas llif caffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw rhoi crynodeb o weithgareddau caffael disgwyliedig y cyngor dros y 18 mis nesaf er mwyn galluogi cyflenwyr presennol a’r dyfodol i nodi cyfleoedd contract posibl.
Pwrpas cofrestr contractau caffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw darparu crynodeb o ddarpariaethau contract presennol.
Mae'r ddwy ddogfen yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â chaffaeliadau yr amcangyfrifir bod eu gwerth contract yn £25,000.00 neu fwy.
Darperir gwybodaeth a gyhoeddir yn llif caffael y cyngor at ddibenion cynllunio yn unig ac nid yw'n creu unrhyw ymrwymiad i ymgymryd ag unrhyw, neu’r holl weithgareddau, fel y nodir yn y rhestr honno, dim ond arwydd o gyfleoedd posibl ydyw. Er bod pob ymdrech resymol wedi'i wneud i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir yn rhestr llif caffael y cyngor yn gywir ar adeg ei chyhoeddi, nid yw'r cyngor yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau o unrhyw fath, mewn perthynas â chywirdeb y wybodaeth.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymrwymo i ddiweddaru'r dogfennau hyn yn flynyddol, neu'n amlach yn ôl yr angen.