Cynhelir nifer o gyfarfodydd rhwydweithio i fusnesau’n gyson ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae pob cyfarfod yn gyfle i gwrdd â phobl broffesiynol eraill ym myd busnes a gallu: 

  • Codi eu hymwybyddiaeth o’ch gwasanaethau / cynnyrch
  • Elwa ar wasanaeth y gallant ei gynnig i helpu’ch busnes
  • Cydweithio â nhw ar eich busnes

Sylwer nad yw cynnwys unrhyw grwpiau rhwydweithio ar y dudalen hon yn awgrymu nac yn golygu unrhyw gefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Rydym yn argymell eich bod yn ymchwilio i unrhyw grwpiau o ddiddordeb cyn dod i gyfarfod neu ymuno fel aelod blynyddol.

Cadwch eich lle o flaen llaw cyn dod i unrhyw gyfarfod. Fel hynny gall y trefnwyr wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol a chadarnhau y byddwch yn gallu dod (gan nad yw rhai grwpiau yn caniatáu i fwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn fod yn bresennol). Weithiau mae’n rhaid gohirio cyfarfod neu’i gynnal mewn man gwahanol ar fyr rybudd, ac wrth gadw’ch lle o flaen llaw dylech gael gwybod am unrhyw newidiadau.

Cyfarfodydd rhwydweithio rheolaidd i fusnesau yn Wrecsam

Rhwydwaith 360+

  • Rhad ac am ddim i westeion/ymwelwyr ac aelodau.
  • Ymaelodwch i gael eich enw yng nghyfeiriadur aelodau’r grŵp.
  • Caniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.
  • Bydd siaradwr gwadd ymhob cyfarfod.
  • Darperir te a choffi.

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: dydd Mawrth (yr ail o bob mis oni nodir yn wahanol).

Amser: 5pm - 6.45pm 

Pa mor aml: unwaith y mis (ac eithrio mis Awst)

Lle: yr Atriwm, Tŵr Rhydfudr, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam LL13 9XT

Manylion cyswllt

Cysylltwch â Grŵp Rhwydweithio 360 ar 01978 667000 neu llenwch ein ffurflen ymholiadau i’r tîm Busnes a Buddsoddi.

Y Ffederasiwn Busnesau Bach

  • Nifer o ddigwyddiadau sy’n cynnig cyfleoedd i rwydweithio.
  • Caniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.
  • Efallai y bydd modd i westeion/ymwelwyr gymryd rhan ond dylid bwrw golwg ar fanylion y cyfarfod penodol i gadarnhau    

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: amrywiol

Amser: amrywiol

Pa mor aml: o bryd i’w gilydd

Lle: amrywiol (ni chynhelir pob digwyddiad ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam)

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ewch i galendr digwyddiadau’r Ffederasiwn Busnesau Bach (dolen gyswllt allanol)

Business 2 Go

  • Darperir brecwast (nid chodir tâl ar westeion / ymwelwyr)
  • Ni chaniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.
  • Gall gwesteion / ymwelwyr ddod i ddau gyfarfod cyn y gofynnir iddynt ymaelodi i gael mynd i ragor o gyfarfodydd.

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: dydd Iau

Amser: 6.45am - 8:30am

Pa mor aml: bob pythefnos 

Lle: Gwesty Rossett Hall, Ffordd Caer, yr Orsedd, Wrecsam LL12 0DE

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Business 2 Go (dolen gyswllt allanol)

Cynghrair Mersi a Dyfrdwy

  • Mae’r tâl archebu’n cynnwys lluniaeth / brecwast.
  • Caniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.
  • Dim dewis ar gyfer aelodaeth flynyddol, cadwch eich lle fel gwestai o flaen llaw er mwyn dod i unrhyw gyfarfod sydd o ddiddordeb i chi.

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: amrywiol

Amser: 8.30am - 9:30am

Pa mor aml: bob dau fis

Lle: amrywiol (ni chynhelir pob digwyddiad ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam)

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cynghrair Mersi a Dyfrdwy (dolen gyswllt allanol), ffoniwch 0151 356 6567 neu e-bostiwch:  mda@cheshirewestandchester.gov.uk.

Networx 4 Business

  • Darperir brecwast
  • Ni chaniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.
  • Gall gwesteion / ymwelwyr ddod i ddau gyfarfod cyn y mae’n rhaid iddynt ymaelodi i gael mynd i ragor o gyfarfodydd, ac mae’r cyfarfod cyntaf yn rhad ac am ddim.

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: dydd Mawrth a dydd Iau

Amser: dydd Mawrth 9am - 11am, dydd Iau 7:30am - 9:30am

Pa mor aml: Bob pythefnos 

Lle: dydd Mawrth yng Nghlwb Golff Wrecsam, Stryd Holt, Holt, Wrecsam, LL13 9SB a dydd Iau yn y Beeches, Ffordd Caer, Gresffordd, Wrecsam, LL12 8PW.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Networx 4 Business (dolen gyswllt allanol) neu e-bostiwch: daryl@networx4business.co.uk

Vox Networking

  • Mae’r tâl archebu’n cynnwys lluniaeth.
  • Caniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.
  • Dim dewis ar gyfer aelodaeth flynyddol, cadwch eich lle fel gwestai o flaen llaw er mwyn dod i unrhyw gyfarfod sydd o ddiddordeb i chi.

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: amrywiol

Amser: 5pm - 7pm 

Pa mor aml: bob tri mis 

Lle: amrywiol (ni chynhelir pob digwyddiad ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam)

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Eventbrite Vox networking (dolen gyswllt allanol) neu cysylltwch â Clara Hughes ar 01978 437070 neu  clara@ezpublishing.co.uk.

Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru

  • Caniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.
  • Efallai y bydd modd i westeion/ymwelwyr gymryd rhan ond dylid bwrw golwg ar fanylion y cyfarfod penodol i gadarnhau    

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: amrywiol

Amser: amrywiol

Pa mor aml: o bryd i’w gilydd

Lle: amrywiol (ni chynhelir pob digwyddiad ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam)

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru (dolen gyswllt allanol), ffoniwch 01244 669988 neu e-bostiwch: info@wcnwchamber.org.uk.

Wrexham Business Professionals

  • Caniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: amrywiol

Amser: amrywiol

Pa mor aml: o bryd i’w gilydd

Lle: amryw leoliadau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam     

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Wrexham Business Professionals (dolen gyswllt allanol)

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

  • Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cynnal nifer o ddigwyddiadau bob blwyddyn sy’n cynnig cyfleoedd i rwydweithio.
  • Mae’r digwyddiadau’n rhad ac am ddim.
  • Caniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: amrywiol

Amser: amrywiol 

Pa mor aml: o bryd i’w gilydd (gan gynnwys brecwast busnes unwaith bob dau fis)

Lle: cynhelir llawer o ddigwyddiadau ar-lein, neu wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Eventbrite Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (dolen gyswllt allanol), ffoniwch 01978 293997 neu e-bostiwch: enterprise@glyndwr.ac.uk.

Wrexham Property Meet

  • Anelir y grŵp yma’n benodol at bobl â diddordeb mewn eiddo.
  • Caniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: dydd Iau

Amser: 10am

Pa mor aml: bob mis (y dydd Iau olaf)

Lle: y Beeches, Ffordd Caer, Gresffordd, Wrecsam, LL12 8PW

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Wrexham Property Meet (dolen gyswllt allanol)

Rhwydwaith Mentrau Cymdeithasol Wrecsam

  • Anelir y grŵp yma’n benodol at fentrau cymdeithasol ac ymhob cyfarfod ceir thema arbennig / siaradwr gwadd.
  • Darperir cinio.
  • Gellir dod i’r cyfarfodydd ac ymaelodi’n rhad ac am ddim.
  • Caniateir mwy nag un cynrychiolydd o’r un proffesiwn.

Manylion y cyfarfod

Diwrnod: amrywiol

Amser: 10am - hanner dydd fel arfer

Pa mor aml: bob tri mis

Lle: amryw leoliadau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: socialenterprise@wrexham.gov.uk.

Grwpiau rhwydweithio eraill

Os ydych chi’n rhedeg grŵp rhwydweithio i fusnesau sy’n cwrdd yn gyson yn ardal Wrecsam, neu’n gwybod am un, rhowch wybod inni drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau. Wedyn gallwn roi manylion y grŵp ar y dudalen hon (yn rhad ac am ddim).

Dod o hyd i ddigwyddiadau busnes 

Mae digwyddiadau busnes hefyd yn cynnig cyfle i gwrdd â gweithwyr proffesiynol eraill ym myd busnes. 

Ceir rhestrau o ddigwyddiadau busnes lleol ar y gwefannau canlynol:

Gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio (dewiswch ‘Busnes a Buddsoddi’) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau busnes a sesiynau rhwydweithio lleol.