Os na allwch chi fynd â’ch bin i ymyl y palmant, mae’n bosibl y byddwn ni’n gallu helpu trwy drefnu casgliadau â chymorth ar gyfer eich sbwriel, deunydd ailgylchu a gwastraff gardd.

Ni fydd y criw casglu yn dod i mewn i’ch cartref nac yn casglu o siediau neu garejis.

Cymhwysedd

Mae’n debyg y byddwch yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth casgliad â chymorth os ydych chi’n diwallu un pwynt o’r meini prawf symudedd canlynol ac un pwynt o’r meini prawf aelwyd hefyd: 

Meini prawf symudedd 

  • Rydych chi’n hŷn nag 80 oed ac mae’n anodd cyrraedd eich eiddo (er enghraifft, os oes gennych risiau neu allt serth)
  • Mae gennych Fathodyn Glas gennym ni (Cyngor Wrecsam) 
  • Rydych wedi’ch cofrestru’n ddall gennym ni (Cyngor Wrecsam)
  • Rydych chi’n derbyn lwfans byw i'r anabl cyfradd uwch neu mae gennych lythyr dyfarnu Taliad Annibyniaeth Bersonol (8 neu fwy o bwyntiau dan y categori ‘symud o gwmpas’, neu 12 pwynt dan y categori ‘cynllunio a dilyn taith’).
  • Mae gennych ddementia a llythyr diagnosis neu lythyr gan y clinig cof

Meini prawf aelwyd

  • Rydych yn byw ar eich pen eich hun neu nid oes unrhyw un yn yr aelwyd rhwng 16 ac 80 oed 
  • Os oes rhywun arall yn yr aelwyd rhwng 16 ac 80 oed a byddent yn bodloni’r meini prawf symudedd uchod

Bydd angen creu cyfrif gyda FyNghyfrif (os nad oes gennych un eisoes) er mwyn llenwi’r ffurflen isod. 

Cais am gasgliadau â chymorth

Dechrau nawr