Os ydych wedi cyflwyno cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (ar ôl gwneud cwyn i ni gyntaf) byddant yn ystyried cynnal ymchwiliad ai peidio.

Pa fath o adroddiad all yr Ombwdsman ei gyhoeddi?

O dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, gall yr Ombwdsman gyhoeddi un o ddau fath o adroddiad yn dilyn ymchwiliad i gŵyn gan aelod o'r cyhoedd eu bod wedi dioddef caledi neu anghyfiawnder trwy gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth o ran corff cyhoeddus.

Cyhoeddir y math cyntaf o adroddiad (a adnabyddir fel adroddiad Adran 16) pan fo’r Ombwdsman yn credu fod yr adroddiad ymchwiliad yn cynnwys materion o ddiddordeb cyhoeddus. Mae rheidrwydd ar y corff dan sylw i roi cyhoeddusrwydd i adroddiad o’r fath ar ei gost ei hun.

22 Gorffennaf 2022

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gŵyn ac wedi canfod camweinyddu/methiant gwasanaeth gan Gyngor Wrecsam. Maen nhw wedi anfon adroddiad ar ganlyniadau eu hymchwiliad i'r Cyngor. Roedd y gŵyn yn ymwneud â'r cymorth a ddarparwyd gan yr Adran Gofal Cymdeithasol a darparwr ar gontract.

Mae Cyngor Wrecsam wedi ymddiheuro i’r achwynydd a bydd yn rhoi’r argymhellion o adroddiad yr Ombwdsmon ar waith.

Mae copi o’r adroddiad i’w weld ar wefan yr Ombwdsmon drwy’r ddolen isod:

Yr ail fath o adroddiad y gall yr Ombwdsman ei gyhoeddi yw adroddiad Adran 21. Gall wneud hyn os yw'r corff cyhoeddus dan sylw wedi cytuno i weithredu unrhyw argymhellion a wnaed ganddo a'i fod yn fodlon nad oes unrhyw ddiddordeb cyhoeddus. Mae crynodeb o bob adroddiad Adran 21 yn y rhifynnau chwarterol o Lyfr Achosion yr Ombwdsman.