Os ydych chi’n cael problemau talu eich Treth y Cyngor, peidiwch ag anwybyddu’r peth gan mai dim ond gwneud pethau’n waeth fydd hyn a gallai arwain at gostau ychwanegol i chi. 

Llythyr Atgoffa

Os nad ydych yn llwyddo i dalu rhandaliad, byddwch yn derbyn hysbysiad atgoffa, yn caniatáu saith niwrnod i wneud taliad. Os talwch y rhandaliad(au) a fethwyd o fewn saith diwrnod gallwch barhau i dalu rhandaliadau misol. Os na lwyddwch i wneud hyn, bydd y cyfanswm llawn am y flwyddyn yn daladwy.

Ail hysbysiad atgoffa

Os methwch â thalu rhandaliadau’r eilwaith, cewch lythyr atgoffa arall. Os methwch â thalu o fewn saith diwrnod byddwch yn colli’ch hawl i dalu’n fisol a bydd y balans cyfan yn daladwy

Hysbysiad atgoffa terfynol (trydydd hysbysiad atgoffa)

Os ydych eisoes wedi cael dau lythyr atgoffa ac wedi talu’r rhandaliadau a fethwyd o fewn saith diwrnod ar ôl cael y llythyrau atgoffa, ac yn methu am y trydydd tro yna bydd y swm llawn sy’n weddill yn daladwy ar unwaith.

Wedi i chi golli’r hawl i dalu mewn rhandaliadau, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni godi gŵys am y balans a’r costau ychwanegol. Ar hyn o bryd, mae’r costau hyn yn £40 am y gwys a £30 am y gorchymyn atebolrwydd.

Os ydych yn derbyn gwŷs i fynd i’r llys

Gallwch wneud trefniant gyda ni i rannu’r balans sydd ar ôl dros weddill y flwyddyn ariannol.

Fydd dim rhaid i chi fynd i’r gwrandawiad llys, fe wnawn ni fynychu yn eich absenoldeb er mwyn cael gorchymyn atebolrwydd yn eich erbyn, gan na fydd modd gwneud trefniant heb hwn (bydd gwneud hyn y costio £30 arall). 

Ni fydd cyflwyno gwŷs neu orchymyn atebolrwydd yn golygu y byddwch yn cael eich rhoi ar restr fethdalwyr nac yn effeithio ar eich cyfradd gredyd.

Gorchymyn atebolrwydd

Unwaith y byddwn wedi cael gorchymyn atebolrwydd byddwch chi’n cael ffurflen incwm a gwariant i’w llenwi a’i hanfon yn ôl atom – hyd yn oed os ydych chi wedi gwneud trefniant talu yn barod.

Os nad ydych wedi gwneud trefniant talu, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gafwyd gennych i wneud y trefniadau priodol.

Os nad ydych yn gwneud trefniadau priodol i dalu’r swm angenrheidiol, byddem yn tynnu arian o’ch cyflog neu eich budd-daliadau, neu’n gofyn i asiantaeth gorfodi (beili) gasglu’r arian. Gallem hefyd wneud cais am orchymyn talu os yw’r ddyled yn fwy na £5,000.

Os bydd eich achos yn cael ei atgyfeirio at asiantau gorfodi, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy. Ffioedd asiantau gorfodi yw:

  • Cyflwyno llythyr cydymffurfio - £75
  • Ymweliad asiant gorfodi - £235

Bydd y ffi gorfodi hefyd yn cynyddu’r raddol os yw eich dyled yn fwy na £1,500.

Lle alla i gael cyngor?

Gallwch drafod eich Treth y Cyngor gydag ymgynghorydd y cyngor ac mae’r sefydliadau hyn hefyd yn cynnig cyngor am ddim a gallant gysylltu â ni ar eich rhan...