Mae gofyn i landlordiaid preifat sicrhau bod eiddo yn ddiogel ac yn addas i fyw ynddo cyn i chi symud i mewn, a chadw’r eiddo mewn cyflwr rhesymol drwy gydol eich tenantiaeth.

Cyfrifoldebau atgyweirio 

Bydd eich landlord yn gyfrifol am y rhan fwyaf o atgyweiriadau mawr, a bydd fel arfer yn gyfrifol am atgyweiriadau i:

  • strwythur yr eiddo 
  • ffitiadau glanweithiol yn yr eiddo a gosodiadau parhaol
  • systemau gwresogi a dŵr poeth 
  • difrod sy’n deillio o unrhyw ymgais i atgyweirio
  • peryglon eraill a nodir, megis larymau tân neu ganllawiau sydd wedi torri ac ati. 

Fel tenant, byddwch fel arfer ond yn gyfrifol am fân waith cynnal a chadw. Mae dyletswydd arnoch i gymryd gofal rhesymol o’r eiddo ac i atgyweirio unrhyw ddifrod sy’n cael ei achosi gennych chi (neu eich teulu a'ch ffrindiau). 

Nid oes rhaid i’r landlord atgyweirio unrhyw beth sy’n perthyn i chi, oni bai iddo gael ei ddifrodi oherwydd nad oedd wedi cyflawni’i rwymedigaethau atgyweirio.

Gofyn am atgyweirio eiddo

Dylech gysylltu â’ch landlord (neu asiantaeth gosod tai) cyn gynted â phosib i roi gwybod am unrhyw waith atgyweirio sydd angen ei wneud.

Os ydych yn rhoi gwybod am y gwaith atgyweirio sydd angen ei wneud wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu drwy neges destun yn gyntaf, dylech wedyn anfon llythyr neu e-bost yn cadarnhau’r manylion. 

Ar ôl i chi roi gwybod am y gwaith atgyweirio sydd angen ei wneud, fe ddylai eich landlord ddweud wrthych pryd y gallwch chi ddisgwyl i’r atgyweiriadau gael eu gwneud. 

Os nad yw’n cyflawni’r gwaith atgyweirio o fewn amser rhesymol, neu’n gwrthod gwneud y gwaith atgyweirio, mae’n syniad da i gadw tystiolaeth y gallwch ei darparu, rhag ofn y bydd yn rhaid i chi gymryd camau pellach. Gall hyn gynnwys copïau o ohebiaeth rhyngoch chi a’r landlord, yn cynnwys llythyrau ac e-byst â’r dyddiad arnynt. Gallech hefyd dynnu lluniau o’r gwaith atgyweirio sydd angen ei wneud. 

Beth allaf ei wneud os nad yw’r atgyweiriadau yn cael eu gwneud?

Os nad yw eich landlord yn cwblhau’r atgyweiriadau sydd angen eu gwneud, gall fod modd i chi ddwyn achos llys yn ei erbyn neu ofyn i ni (fel awdurdod tai lleol) am gymorth.

Gallwch ofyn i ni archwilio’r eiddo o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai a chymryd unrhyw gam sydd yn angenrheidiol.

Os ydym yn nodi unrhyw beryglon difrifol, mae’n rhaid i ni gymryd camau gorfodi er mwyn cael gwared ar y perygl.

Mae’n bosib y byddwn yn penderfynu cymryd camau gorfodi ar gyfer peryglon llai difrifol, os ystyrir bod hynny’n angenrheidiol. Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid i ni gysylltu â’r landlord i roi rhybudd y byddwn yn cynnal asesiad risg.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddwn yn cymryd camau pellach tan y bydd eich landlord wedi cael cyfle i fynd i’r afael â’r problemau.

Peidio â thalu eich rhent

Os byddwch chi’n peidio â thalu eich rhent, efallai y bydd y landlord yn gallu cymryd camau yn eich erbyn, gan gynnwys ceisio gorchymyn llys i’ch troi chi allan.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd modd i chi wrthbwyso’r rhent yn erbyn yr atgyweiriadau nad yw’r landlord wedi’u cyflawni, ond fe ddylech chi bob amser ofyn am gyngor cyfreithiol, oherwydd fe allech chi golli’ch cartref.