Eich hawliau (lletywyr)

Gallwch chi ganiatáu i bobl eraill fyw gyda chi fel lletywyr. Lletywr yw rhywun sy'n byw gyda chi, yn rhannu eich cyfleusterau ond nid yw’n gallu eich atal chi rhag mynd i unrhyw un o'r ystafelloedd y maen nhw’n eu defnyddio. Efallai y byddan nhw’n cael rhyw fath o wasanaeth gennych chi fel coginio neu lanhau. 

Os ydych chi’n ddeiliad contract diogel, nid oes angen ein caniatâd ni arnoch chi i gael lletywyr yn eich eiddo ond os oes gennych chi unrhyw fath arall o gontract mae angen ein caniatâd arnoch.  

Pa un a oes angen caniatâd arnoch chi ai peidio, rhowch wybod i ni os ydych chi’n cymryd unrhyw letywyr a faint ohonynt.

Eich cyfrifoldebau

Cyffredinol

  • Rhaid i chi sicrhau mai'r cartref hwn yw eich unig gartref neu'ch prif gartref.
  • Rhaid i chi roi gwybod i'ch swyddfa dai leol yn ysgrifenedig os byddwch i ffwrdd o'ch cartref am fwy na mis. Tra'r ydych i ffwrdd, rydych yn gyfrifol am sicrhau bod yr eiddo'n ddiogel.
  • Ni ddylech ganiatáu i fwy o bobl fyw yn eich cartref nag ydym ni'n eu caniatáu. Mae'r ffordd yr ydym yn penderfynu faint o bobl sy'n gallu byw yn eich cartref yn cael ei osod gan y gyfraith.
  • Chi sy'n gyfrifol am drefnu yswiriant ar gyfer cynnwys eich cartref i yswirio eich dodrefn a'ch eiddo personol. Ni fyddwn yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod i'ch eiddo a achoswyd gennych chi, eich teulu, lletywyr, is-denantiaid neu ymwelwyr, anifeiliaid anwes nac unrhyw bobl eraill.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gadw unrhyw beiriannau neu gerbydau sy'n defnyddio tanwydd fflamadwy (sy'n mynd ar dân yn hawdd) y tu mewn i'ch cartref, mewn mannau sy'n cael eu rhannu y tu mewn i'r adeilad (cyntedd, grisiau, pen grisiau ac ati).
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt storio unrhyw beth a all fynd ar dân neu ffrwydro yn eich cartref neu mewn unrhyw fan sy'n cael ei rhannu, er enghraifft, poteli nwy, paraffin, petrol neu unrhyw sylweddau peryglus eraill. Nid ydym yn caniatáu nwy petroliwm hylifol (LPG) mewn adeiladau sydd â mwy na 2 lawr. Os oes angen i chi ddefnyddio a chadw silindrau ocsigen oherwydd anhwylder meddygol, rhaid i chi roi gwybod i'ch swyddfa dai leol.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt storio unrhyw fath o offer diwydiannol neu ddarnau ceir mawr fel injans neu olwynion yn eich cartref.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt daflu unrhyw sbwriel nac eitemau eraill o ffenestri, balconïau neu lwybrau.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt adael unrhyw chwistrellau yn eich cartref, yn eich gardd neu unrhyw le arall lle gallant achosi niwed i bobl eraill.
  • Rhaid i chi a'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gadw unrhyw falconi'n lân ac yn daclus ac yn rhydd rhag unrhyw eitemau a all beryglu pobl eraill. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gynnau tanau na barbeciws na gadael i unrhyw anifail faeddu arno.
  • Chi sy'n gyfrifol am dalu am allweddi newydd neu gloeon newydd os bydd eich allweddi'n mynd ar goll neu'n cael eu dwyn. Gallwn newid y cloeon a darparu allweddi newydd, ond byddwn yn codi tâl am wneud hyn. Neu, gallwch chi newid y cloeon eich hun. Mae angen cloeon o safon arbennig. Cysylltwch â'r swyddfa dai leol a fydd yn rhoi gwybod i chi am y rhain. Dylech ystyried yswirio cynnwys eich cartref yn yr amgylchiadau hyn.
  • Chi sy'n gyfrifol am gostau unrhyw waith trwsio sydd ei angen yn eich ty os bydd yr heddlu'n canfod tystiolaeth o drosedd ar ôl mynd i mewn iddo mewn modd cyfreithlon. Chi fydd yn gyfrifol am y costau, p'un a fyddwch yn awdurdodi'r gwaith trwsio neu unrhyw waith arall ai peidio. Heblaw am y gwaith hynny rydym ni'n ei ystyried yn waith brys, rhaid i chi dalu cyn i ni drefnu i'r gwaith gael ei gwblhau. Os na fydd yr heddlu'n canfod unrhyw dystiolaeth o drosedd, byddwn yn ceisio hawlio'r costau'n ôl ganddyn nhw.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt redeg busnes o'ch cartref heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni'n gyntaf.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt ymyrryd amdanynt ymyrryd â chyflenwadau nwy, na thrydan na dwr na'r mesuryddion.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt ymyrryd amdanynt ymyrryd â chyflenwadau nwy, na thrydan na dwr na'r mesuryddion.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gael gwared ar unrhyw eitemau amhriodol fel clytiau tafladwy i lawr y toiled.
  • Rhaid i chi brofi eich canfodyddion mwg yn rheolaidd a newid y batris yn ôl yr angen. Efallai y gallwn eich helpu os ydych yn hen neu os oes gennych anabledd. Gofynnwch yn eich swyddfa dai leol.
  • Rhaid i chi a'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gadw y tu mewn i'ch ty'n lân ac yn daclus.
  • Chi sy'n gyfrifol am gadw y tu mewn i'ch ty mewn cyflwr da o ran addurniad. Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt osod plastr gweadog fel Artex ar y waliau na'r nenfwd heb gael ein caniatâd ysgrifenedig ni'n gyntaf.
  • Rhaid i chi sicrhau bod eich ty wedi'i wresogi a'i awyru'n ddigonol er mwyn atal anwedd yn yr eiddo. Os oes anwedd ar eich waliau neu'ch ffenestri, dylech gael gwared arno ar unwaith.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt ddwyn unrhyw eitem sy'n perthyn i ni o'r ty na'r ardd.

Gerddi

  • Rhaid i chi a'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gadw eich gardd yn daclus. Mae’n rhaid torri’r lawntiau, gwrychoedd a llwyni’n rheolaidd a’u cadw i uchder rhesymol. Peidiwch â gadael i goed, gwrychoedd a llwyni dyfu ar draws llwybrau a phalmentydd. Rhaid i'ch gardd fod yn glir rhag sbwriel, dodrefn, rwbel ac eitemau eraill. Os yw'r ardd wedi gordyfu ac nid oes unrhyw reswm pam na ellwch chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt wneud y gwaith, gallwn godi tâl arnoch a gwneud y gwaith ar eich rhan.
  • Rhaid i chi a'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt sicrhau nad yw unrhyw allfeydd nwy yn yr ardd wedi'u gorchuddio.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt blannu neu dynnu unrhyw goed, gwrychoedd neu lwyni heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni'n gyntaf. Gallem fynd i mewn i'ch gardd i wneud unrhyw waith yr ydym ni'n ei ystyried yn angenrheidiol os byddwch yn caniatáu i unrhyw goeden, gwrych neu lwyn achosi niwsans neu berygl neu os yw'n debygol o achosi unrhyw ddifrod. Byddwch chi'n gyfrifol am gostau unrhyw waith tebyg. Gallem godi tâl arnoch ac yna cwblhau'r gwaith.

Mannau cymunedol a mannau a rennir

  • Rydych a’r bobl rydych yn gyfrifol amdanynt yn gyfrifol ar y cyd â’r deiliad contract eraill yn y bloc am sicrhau y cedwir yr ardaloedd a rennir yn lân, taclus ac yn glir o sbwriel. Rydych chi’n gyfrifol ar y cyd â’r preswylwyr eraill yn y bloc am sicrhau y cedwir yr ardaloedd a rennir yn lân, taclus ac yn glir o sbwriel.
  • Os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau gyda mynedfeydd cymunedol, ni ddylech amharu â’r offer diogelwch, gadael drysau ar agor na gadael pobl ddieithr i mewn heb gadarnhau pwy ydyn nhw. Ac eithrio mewn argyfwng, ni ddylech adael drysau tân ar agor.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt adael unrhyw eitemau a allai achosi tân, perygl neu rwystr mewn mannau sy'n cael eu rhannu. Gallem gael gwared ar unrhyw eitemau tebyg a chodi tâl arnoch am wneud hynny.
  • Rhaid i chi ar bobl o dan eich gofal beidio a chynnu tân mewn ardaloedd rydych yn ei rannu gydag eraill.

Anifeiliaid ac anifeiliaid anwes

  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gadw neu ofalu am gi neu gath (heblaw am gi tywys i bobl ddall neu gi clywed i bobl fyddar) os ydych yn byw mewn llety cysgodol ac nad oes gennych eich gardd eich hun.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gadw neu ofalu am gi neu gath (heblaw am gi tywys i bobl ddall neu gi clywed i bobl fyddar) os ydych yn byw mewn llety sydd â mynediad dec (gyda'r drws ffrynt yn agor allan i falconi sy'n cael ei rannu) ac nad oes gennych eich gardd eich hun. Os oedd gennych denantiaeth a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 1997 sydd wedi’i drosi yn gontract meddiannaeth yn awr gallwch gadw ci a oedd gennych cyn y dyddiad hwnnw, ond ni chewch gadw ci arall.Gofynnwch am fwy o wybodaeth yn eich swyddfa dai leol.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gadw unrhyw anifail yr ydym ni'n ei ystyried yn anaddas ar gyfer eich cartref. Os os gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch am wybodaeth yn eich swyddfa dai leol.
  • Ni ddylai unrhyw anifail sydd gennych neu yr ydych yn gofalu amdano ddychryn unrhyw un nac achosi niwsans i wylltio neu darfu ar unrhyw un arall. Dylech ei gadw dan reolaeth bob amser. Ni ddylech adael i'ch ci faeddu mewn mannau sy'n cael eu rhannu neu fannau cyhoeddus.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gadw mwy na nifer resy mol o anifeiliaid. Os ydym o'r farn bod nifer yr anifeiliaid yr ydych yn eu cadw yn eich cartref neu yn eich gardd yn afresymol, gallwn orchymyn i chi gael gwared ar rai neu bob un ohonynt yn barhaol. Wrth ystyried beth yw nifer resymol, byddwn yn ystyried y gymdogaeth, y math o gartref a'i faint, nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref a'r math o anifeiliaid sydd gennych a'u maint.
  • Os ydych chi'n cadw cwn sy'n cael eu hystyried yn beryglus dan Ddeddf Cwn Peryglus 1991, rhaid i chi gydymffurfio â'r ddeddf honno. Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob ci wisgo tag gyda'ch enw a'ch cyfeiriad arno.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt gadw unrhyw anifail anwes mewn amodau gwael neu fudr, neu mewn modd a allai achosi ofn i'r ani fail.

Parcio a cheir

  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt wneud unrhyw waith trwsio mawr i'ch car/ceir na pharcio unrhyw gerbyd anghyfreithlon nad yw'n addas i'w gyrru ar y ffordd ar y tir yn ymyl eich cartref, ar y ffordd neu mewn unrhyw fan sy'n cael ei rhannu. Os bydd angen i ni symud neu gael gwared ar unrhyw gerbydau tebyg, gallwn godi tâl ar y perchennog.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt barcio cerbyd yn eich gardd oni bai bod gennych lawr caled (tramwyfa neu ardal palmentog i barcio arno). Rhaid i chi gael ein caniatâd i adeiladu un o'r rhain a rhaid i chi gadw at y safonau sy'n orfodol gennym. Os byddwch am barcio carafán, carafán modur, cwch neu drelar ar y llawr caled, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym ar gyfer hyn hefyd. Rhaid i chi barcio pob cerbyd ar y llawr caled.
  • Rhaid i chi a’r bobl rydych yn gyfrifol amdanynt beidio â pharcio unrhyw gerbyd sy’n rhwystro pobl eraill neu eu cerbydau. Os nad oes dreif gennych ceisiwch barcio y tu allan i’ch eiddo, os oes lle, a cheisiwch sicrhau nad ydych yn rhwystro mynediad rhywun arall i’w heiddo hwythau.
  • Ni ddylech chi na'r bobl yr ydych yn gyfrifol amdanynt barcio carafán, carafán modur, cwch neu drelar ar y stryd neu mewn unrhyw fannau sy'n cael eu rhannu heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni.