Rydym ni (Cyngor Wrecsam) yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (NWFRD) a Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod holl lety sydd yn gysylltiedig ag eiddo masnachol yn bodloni safon lleiafswm derbyniol.

Gall lety cysylltiedig (uwchben neu o dan eiddo masnachol) ddarparu bonws gwerthfawr i’ch busnes a’r gymuned leol, drwy:

  • Incwm ychwanegol i weithredwyr busnes
  • Llety yn cael ei gynnwys fel rhan o gytundeb cyflogaeth
  • Diogelwch gwell ar gyfer eiddo eich busnes

Os oes gennych unrhyw lety byw uwchben eich eiddo busnes, mae gan yr unigolyn cyfrifol ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn addas i’w ddefnyddio fel llety.

Yr Unigolyn Cyfrifol

Yr unigolyn cyfrifol yw pwy bynnag sydd yn berchen ar yr adeilad (dim ond y rhannau annomestig) neu rywun sydd â rheolaeth am yr eiddo, gall fod yn un o’r canlynol:

  • perchennog cyfreithiol 
  • rhydd-ddeiliaid 
  • llesddeiliad
  • gweithredwr busnes

Amcanion y Prosiect

Y prif amcan yw cael gwared ar lety byw nad yw’n cydymffurfio. Cyngor a chanllaw ar sut y gallwch ddefnyddio’r llety cysylltiedig yn ddiogel/ effeithiol yn cael ei ddarparu yn ystod y prosiect.

Rydym wedi cael cynnydd yn yr adroddiadau o lety nad ydynt yn cydymffurfio ac mewn rhai achosion, ynghyd â NWFRS, rydym wedi ceisio gwahardd defnydd o’r eiddo hyn fel llety oherwydd amodau anniogel. 

Drwy weithio gyda gweithredwyr busnes yn Wrecsam, rydym yn bwriadu sicrhau bod llety cysylltiedig yn ddiogel ac yn addas i breswylwyr.

Mathau o eiddo sy’n cael eu cynnwys yn y prosiect hwn

Eiddo bwyd cyflym

Er enghraifft:

  • Cebab
  • Tsieineaidd
  • Pitsa
  • Indiaidd

Salon harddwch

Er enghraifft:

  • Barbwr
  • Salon ewinedd
  • Parlwr Harddu
  • Tatŵ

Eiddo trwyddedig

Er enghraifft:

  • Tafarndai
  • Siop Bapurau Newydd
  • Siop Gyfleusterau
  • Siop Ddiodydd Trwyddedig

Archwiliadau

Byddwn yn cynnal archwiliadau asiantaeth ar y cyd ymatebol a rhagweithiol heb gyhoeddi ar bob mathau o eiddo busnes. 

Bydd yr archwiliadau hyn i benderfynu os oes unrhyw lety byw sy’n bresennol yn bodloni’r safonau gofynnol o ddiogelwch ac addasrwydd. 

Camau gallwn eu cymryd

Mae gennym ystod o opsiynau sydd ar gael i ni ddelio gyda llety anaddas, gan gynnwys:

  • Darparu cyngor ar sut gellir defnyddio’r llety sy’n gysylltiedig â’ch busnes i fodloni safonau diogelwch a byw, a lle bo’n angenrheidiol, eu gwella. 
  • Cyflwyno rhybudd bod rhaid i waith gael ei gwblhau i fodloni lleiafswm safonau.
  • Cyflwyno rhybuddion gorlenwi i gyfyngu ar nifer o breswylwyr
  • Gwahardd defnyddio rhan neu eich holl eiddo oherwydd amodau anniogel neu o dan y safon.
  • Cau eich busnes oherwydd methiannau sylweddol i gydymffurfio

Eich Rhwymedigaethau Cyfreithiol

Fel perchennog neu landlord llety cysylltiedig, mae gennych chi gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau ei fod yn ddiogel a cyn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer annedd.

Diogelwch tân

Larymau Tân

Mae’n rhaid i chi gael larymau tân sy’n gweithio yn y llety.

Os yw’r eiddo yn cael ei ddefnyddio gan staff neu drydydd parti, mae’n rhaid i’r larymau fod yn gysylltiedig rhwng gwahanol loriau (rhwng y rhannau masnachol a phreswyl). Os yw’r perchennog busnes bwyd yn byw yn y llety yna nid yw system rhyng-gysylltiol yn ofyniad - fodd bynnag byddem dal yn ei argymell.

Llwybrau dianc rhag tân

Mae’n rhaid i chi:

  • gael allanfeydd tân sydd wedi’i arwyddo’n glir
  • wneud yn siŵr nad oes unrhyw rwystrau a fyddai’n atal gallu mynd o’r safle’n gyflym

Storio sylweddau fflamadwy

Bydd angen i chi:

  • nodi os oes unrhyw beth yn fflamadwy
  • ystyried a yw’r deunydd hylosg yn gallu cael eu cadw’n rhywle arall, os oes.

Cynlluniau peryglus a gwahaniad tân

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr:

  • bod digon o amddiffyniad i atal lledaeniad o’r tân 
  • y gall bawb adael yr adeilad yn ddiogel os yw tân wedi dechrau

Asesiad risg tân 

Mae’n rhaid i chi (fel yr unigolyn cyfrifol) gyflawni asesiad risg tân ar gyfer yr eiddo a’i adolygu’n rheolaidd, neu ddewis unigolyn cymwys i wneud hyn i chi.

Ynghylch asesiadau risg diogelwch tân

I gyflawni asesiad, rydych yn edrych yn ofalus ar eich eiddo a’r bobl sy’n ei ddefnyddio, o safbwynt atal tân. Mae’n ymwneud â deall y risgiau posibl, yna gwella eich rhagofalon diogelwch tân i gadw pobl yn ddiogel.

Dyma drosolwg o’r camau yr ydych angen eu dilyn:

  1. Adnabod unrhyw beryglon
  2. Penderfynu pwy o bosib a all cael eu niweidio a sut 
  3. Gwerthuso’r risgiau a phenderfynu ar y rhagofalon
  4. Cofnodi eich canfyddiadau a gweithredu unrhyw newidiadau sydd eu hangen
  5. Adolygu eich asesiad a diweddaru os oes angen

Diogelwch trydanol

Bydd angen i chi:

  • wneud yn siŵr nad oes unrhyw wifrau wedi torri neu sy’n ddiamddiffyn
  • wneud yn siŵr nad oes gormod o geblau estyn
  • sicrhau bod tystysgrif diogelwch trydanol dilys a diweddar - Adroddiad ar Gyflwr y Gosodiad Trydanol (EICR) 

Gallwch ddod o hyd i ganllaw diogelwch trydanol pellach ar ein tudalen hawliau a chyfrifoldebau landlord.

Diogelwch nwy

Bydd yn rhaid i chi feddu ar:

  • dystysgrif diogelwch nwy dilys a diweddar ar gyfer y llety
  • larwm carbon monocsid ar gyfer y llety

Gallwch ddod o hyd i ganllaw diogelwch nwy pellach ar ein tudalen hawliau a chyfrifoldebau landlord.

Safonau tai addas

Mae arnoch sicrhau bod eich llety yn bodloni safonau byw sylfaenol. 

Mae hyn yn cynnwys nifer o wahanol broblemau posibl, megis:

  • gorlenwi 
  • amwynderau annigonol neu wallus 
  • eiddo anniogel neu anaddas ar gyfer llety 

Gallwch weld rhagor o wybodaeth ar yr holl safonau mae eich llety angen ei fodloni:

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o ganllawiau gallwch gysylltu’r timau canlynol lle bo’n berthnasol:

Ein Tîm Iechyd yr Amgylchedd

E-bost: healthandhousing@wrexham.gov.uk 

Ffôn: 01978 292040

Tîm Diogelwch Bwyd

E-bost: foodandfarming@wrexham.gov.uk 

Tîm Safonau Masnach

E-bost: tradstand@wrexham.gov.uk 

Hefyd gallwch anfon e-bost at y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Flintshire.Wrexham@nwales-fireservice.org.uk