Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Maethu

 

Maethu yw lle bydd unigolion yn rhoi amgylchedd o ofal a sicrwydd yn eu cartrefi eu hunain i blant a phobl ifanc pobl eraill. Mae modd maethu yn llawn-amser neu'n rhan-amser ac mae'n rhedeg yr holl ffordd o ofal am ddiwrnod neu dros y penwythnos i ychydig o fisoedd neu hyd yn oed am gyfnod hir. Mae maethu yn cynnig pob math o gyfle i chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn trwy helpu i roi cefnogaeth iechyd, addysg ac emosiynol.


A yw Maethu i chi?

Mae plant y gofelir amdanynt yn Wrecsam i gyd yn unigryw ac yn unigolion - ac mae angen unigolion unigryw i ofalu amdanynt. Efallai eich bod chi o fewn un neu amryw o'r categorïau isod - ni fydd yr un yn effeithio ar eich addasrwydd i fod yn Ofalwr Maeth.

  • Gellwch fod yn wryw neu'n fenyw
  • Gellwch fod yn briod, yn cydfyw neu'n sengl
  • Gellwch rentu neu fod yn berchen ar eich cartref eich hun
  • Gellwch fod â phlentyn neu blant eich hun
  • Gellwch fod yn ddiblant
  • Gellwch fod yn gyflogedig neu heb waith.
  • Gellwch fod wedi treulio amser mewn gofal eich hun hyd yn oed

Mae ychydig o rinweddau craidd y mae Gofalwyr Maeth yn eu rhannu:

  • Gallu i ddeall ac ymdeimlo â phlant.

  • Dymuniad i rannu eu cartref â phlentyn neu unigolyn ifanc sydd ei angen.

  • Gallu i weithio mewn tîm.

  • Dealltwriaeth, amynedd, ac ymroddiad i les plant sy'n agored i niwed.

  • Llawer o egni a synnwyr digrifwch.

  • Ymroddiad i ddatblygu sgiliau drwy hyfforddiant.

  • Ystafell sbâr.

Os ydych yn teimlo eich bod yn meddu ar y rhinweddau hyn beth am roi galwad i ni yn awr am fwy o wybodaeth ynghylch sut y gellwch fod yn Ofalwr Maeth i Wrecsam. Rhadffôn: 0800 7830618.

Mae croeso i chi ofyn gymaint o gwestiynau ag y dymunwch, neu os yw'n well gennych, gwnaiff ein swyddog recriwtio ymweld â chi yn eich cartref i drafod popeth yn fanwl â chi cyn i chi benderfynu gwneud cais.

Cais arbennig.

Mae angen mwy o ofalwr ar gyfer plant a phobl ifanc dros 10 oed. Os ydych yn teimlo y gellwch gynnig cartref i blentyn hyn beth am roi galwad i ni i ganfod mwy. Neu, os oes gennych ffrindiau, teulu neu gydweithwyr a fyddai â diddordeb mewn gofalu am blentyn hyn beth am ddangos y pecyn gwybodaeth hwn iddynt a gofyn iddynt gysylltu â ni os ydynt am wybod mwy - Rhadffôn: 0800 7830618

Cysylltiadau Maethu defnyddiol

Mabwysiadu a maethu trwy DirectGov

Gwybodaeth a chyngor am y broses mabwysiadu a maethu plentyn  - adran Rhieni

 www.fostering.net

Y Rhwydwaith Maethu yw’r brif elusen yn y DU ar gyfer pawb sydd yn gysylltiedig â maethu. Yn llais i ofal maeth mae’n ymgyrchu i gael llywodraethau i weithredu ar faterion sy’n effeithio ar deuluoedd maeth ac yn  darparu adnoddau ymarferol, hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth i’w aelodau. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ragarweiniol i bobl sy’n ystyried maethu am y tro cyntaf.’

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

 
English
 

Cyswllt i

A yw Maethu i chi?
Beth mae Maethu yn ei olygu?
Amrywiol fathau o ofal maeth y gellwch eu darparu
Sut fyddwn ni yn eich cefnogi
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cyswlltwch â ni
Cyfnodau Bywyd
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint