Mae’r Hwb Lles wedi ei greu drwy bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (dolen gyswllt allanol) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (dolen gyswllt allanol).

Mae’r Hwb Lles ar gyfer pawb yn Wrecsam, ac mae’n cynnig gwasanaethau a gweithgareddau i hybu eich lles. 

Yma maent yn gallu darparu eu gwasanaethau mewn amgylchedd diogel er mwyn:

  • gwella mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth
  • darparu datrysiadau ataliol ac amgen i ofal a chefnogaeth (gan ymdrin ag iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles)

Dod o hyd i weithgareddau

Trwy ddod i weithgaredd yn y canolbwynt, gallech chi gwrdd â phobl newydd, dysgu sgil neu gael sgwrs.

Os ydych yn teimlo’n unig, neu os hoffech gyfarfod â phobl o’r un anian a gwneud ffrindiau newydd, ymunwch â ni am baned yn y sesiynau canlynol: 

Clwb Siocled Poeth

Dydd Mawrth 4pm-5pm
Os ydych yn rhy brysur yn ystod y dydd i fynd i fore coffi, dewch draw i ymuno â ni.
Am ddim. Mae croeso i chi roi cyfraniad tuag at y lluniaeth, ond nid oes rhaid.

Bore Coffi i Bobl Dros 50

Dydd Llun 10am-11.30am
Ymunwch â ni am baned a sgwrs.
Am ddim. Mae croeso i chi roi cyfraniad tuag at y lluniaeth, ond nid oes rhaid.

Canolbwynt Bwydo ar y Fron Wythnosol

Dyddiau Mawrth 1pm-3pm
Gwybodaeth a chefnogaeth yn ogystal â chyfle i gymdeithasu
Galwch heibio, does dim angen trefnu apwyntiad

Gallwch chi hefyd gael gwybodaeth am ragor o weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y canolbwynt bob wythnos ar ein tudalen Facebook (neu drwy’r manylion cyswllt ar y dudalen hon).

Ardal Gymunedol

Mae ein hardal gymunedol yn cynnwys gofod desg, podiau a gofod hyfforddi agored. Gellir darparu rhaglen o sesiynau galw heibio a gweithgareddau gan wasanaethau lleol sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a chyfleoedd yma.

Mae’r gofod hyfforddi yn cynnwys sgrin gludadwy 33” gyda phyrth USB a HDMI yn addas ar gyfer rhannu sgrin a chyflwyniadau.

Ni chodir tâl ar sefydliadau sy’n dymuno defnyddio ein hardal gymunedol ar gyfer sesiynau galw heibio ac ymgysylltu ar gyfer y cyhoedd, ond fe fydd angen i chi archebu lle ymlaen llaw. 

Image
""

Archebu ystafell / gofod

Mae gennym ni amrywiaeth o ystafelloedd a gofod ar gael i’w harchebu. E-bostiwch wellbeinghub@wrexham.gov.uk os hoffech archebu ystafell neu os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â’ch archeb.

Ystafelloedd Cyfarfod 

Mae gennym ni ddwy ystafell gyfarfod gyda lle i tua 6 o bobl ym mhob un. 

Fe ellir archebu’r rhain ar gyfer gweithgareddau i grwpiau llai, cwnsela personol neu ar gyfer cyfarfodydd bach (maent yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau cymunedol, sefydliadau trydydd sector a gwasanaethau iechyd fel lle i siarad gyda chleientiaid er enghraifft).

Ystafell Gyfarfod 2

3 bwrdd, 6 chadair, gyda dolen sain wedi ei gosod.

Image
""

Ystafelloedd Cymunedol 

Mae ein hystafelloedd cymunedol yn fannau y gellir eu harchebu ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithgareddau. Fe ddaw pob ystafell gydag ystod o gyfleusterau. 

Ystafell Gymunedol 1

Mae lle yma i tua 15 o bobl. Fe ddaw’r ystafell hon gyda mynediad i gyfleusterau cegin gyda chyfarpar llawn a sinc y gellir addasu ei huchder a hob.

Image
""

Ystafell Gymunedol 2

Mae lle yma i tua 24 o bobl. Fe ddaw’r ystafell hon gyda mynediad i gyfleusterau cegin gyda chyfarpar llawn a sinc y gellir addasu ei huchder a hob, ac ardal chwarae awyr agored. 

Image
""

Ystafell Gymunedol 3

Mae lle yma i tua 24 o bobl. Fe ddaw’r ystafell hon gyda mynediad preifat i le newid hygyrch a sgrin ryngweithiol sefydlog. Mae’r sgrin 75” yn sgrin arddangos ryngweithiol 4K ac mae ganddi hefyd y nodweddion canlynol: 

  • Camera Stiwdio PolyCom sy’n cyd-fynd â Teams, Zoom a Skype 
  • 3 phorth HDMI, porth arddangos a phorth VGA ar gyfer cysylltu gliniadur
  • Ap Newline Cast sy’n eich galluogi chi i gysylltu eich dyfais eich hun a dangos yr hyn sydd ar eich sgrin fach (mae’n cyd-fynd â Windows/iOS/Android)
  • Bwrdd gwyn digidol gwib ac arf anodi ar y sgrin
Image
""

Mae yna rannwr ystafell rhwng Ystafelloedd Cymunedol 2 a 3. Gellir agor hwn i greu gofod mwy gyda lle i uchafswm o 48 o bobl.

Ystafelloedd eraill

Ystafell Glinig

Ystafell fach yw hon sy’n addas ar gyfer ymgynghoriadau un i un. Mae’n cynnwys desg, cadair gyfrifiadur, dwy gadair fariatrig i ymwelwyr a basn golchi dwylo. 

Mae dolen sain wedi’i gosod yma.

Image
""

Ystafell Synhwyraidd

Image
""
  • Mae’r ystafell hon yn cynnwys gweithgareddau synhwyraidd amrywiol gan gynnwys: 
  • tiwb enfys hud
  • panel wal cyffyrddadwy
  • gêm gofio KopyKat
  • pêl ddrych
  • taflunydd olwyn
  • plinth dirgrynu
  • goleuadau nenfwd/wal all gael eu teilwra
  • y gallu i chwarae eich cerddoriaeth eich hun

Mae’r sesiynau ystafell synhwyraidd tua 30 munud o hyd, ond fe allwch archebu sawl sesiwn ar unwaith os hoffech fwy o amser.  Mae teganau synhwyraidd ychwanegol ar gael ar gais.

Mae offer codi ar drac nenfwd wedi’i osod yn yr ystafell synhwyraidd. 

Gellir defnyddio’r ystafell hon drwy alw i mewn os yw ar gael, ond mae’n well archebu ymlaen llaw.

Nodwch nad oes staff yn goruchwylio’r defnydd o’r ystafell a’r offer.

Gellir defnyddio’r ystafell hon drwy alw i mewn os yw ar gael, ond mae’n well archebu ymlaen llaw.

Mae Familiarisation Videos yn gwmni menter gymdeithasol yn Wrecsam sy’n gwneud fideos i ymgyfarwyddo pobl o wahanol leoliadau fel eu bod nhw’n gallu gweld edrychiad rhywle a pha gyfleusterau sydd ar gael cyn iddyn nhw fynd yno.

Offer ychwanegol

Am ffi ychwanegol fe allwn ddarparu siartiau troi, sgrin y gellir ei symud gyda galluoedd hybrid a lluniaeth o de/coffi. 

Lleoedd newid / ystafelloedd ymolchi hygyrch

Mae gennym ni ddau le newid/ystafelloedd ymolchi hygyrch mewn mannau cyhoeddus. Mae pob un yn cynnwys bwrdd newid babi, offer codi ar drac nenfwd, cawod gyda gwely cawod y gellir addasu ei uchder, sinciau a thoiledau.  

Mae trydydd lle newid wedi ei gysylltu ag ystafell gymunedol 3 sydd hefyd â thoiled ychwanegol sy’n addas i blant bach.

Ffioedd

Cyfraddau gostyngol 

Mae cyfraddau gostyngol ar gael i sefydliadau’r trydydd sector, grwpiau cymunedol a gwasanaethau statudol. I gael rhagor o wybodaeth ar hyn e-bostiwch wellbeinghub@wrexham.gov.uk a gofynnwch am siarad gyda Rheolwr yr Hwb Lles. Mae’r cyfraddau gostyngol hyn yn destun adolygiad rheolaidd ac fe allant newid o dro i dro.

Llogi masnachol

Ni chaniateir archebion masnachol o fewn yr hwb ar hyn o bryd, fodd bynnag bydd hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Cyfnod Llogi

Mae’r prisiau fesul sesiwn sydd hyd at 3 awr, ac eithrio ar gyfer yr ystafell synhwyraidd sy’n 30 munud.

Ffioedd yr ystafelloedd
YstafellY nifer mwyaf o bobl y mae lle iddynt yn yr ystafellCost fesul sesiwn 2023/24
Ystafell Gyfarfod 16£30
Ystafell Gyfarfod 26£30
Yr Ystafell Glinigol3£25
Ystafell gymunedol 1 gan gynnwys y gegin12£35
Ystafell gymunedol 2 gan gynnwys y gegin/y gofod y tu allan20£40
Ystafell gymunedol 3 gan gynnwys y bwrdd rhyngweithiol sefydlog20£40
Ystafell gymunedol 2 a 340£60
Yr Ystafell Synhwyraidd6£5
Ffioedd ychwanegol
Y math o offer neu luniaethCost
Sgrin gludadwy a chamera£10
Y defnydd o gerddoriaeth fyw neu wedi'i recordio£2
Stand siart droi a phapur£5
Te a choffi £1

Cyfnod llogi 

Mae’r prisiau fesul sesiwn sydd hyd at 3 awr, ac eithrio ar gyfer yr ystafell synhwyraidd sy’n 30 munud.

Yr Hwb Lles - amodau llogi

  1. Nid yw llenwi ein ffurflen archebu yn gwarantu argaeledd yr ystafell yr ydych ei hangen ar yr amser a’r dyddiad yr ydych chi wedi’i ddewis. 
  2. Nid yw eich archeb wedi ei chadarnhau hyd nes bod taliad llawn neu flaendal y cytunwyd arno wedi ei dderbyn cyn dyddiad eich archeb. Nid oes modd ad-dalu blaendaliadau.  Mae’r Hwb Lles yn cadw’r hawl i ganslo unrhyw archeb. Os caiff archeb ei chanslo o ganlyniad i ffactorau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth fe roddir ad-daliad llawn. 
  3. Rhaid canslo eich digwyddiad neu archeb drwy e-bost at wellbeinghub@wrexham.gov.uk o leiaf wythnos cyn eich digwyddiad. Bydd canslo yn arwain at golli eich blaendal. 
  4. Cyfrifoldeb y llogwr yw’r holl farchnata a hysbysebu ac nid cyfrifoldeb yr Hwb Lles. 
  5. Cytunir ar ofynion ychwanegol ar gyfer eich archeb gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, luniaeth ac offer cyn cadarnhau eich archeb a gall hyn olygu cost ychwanegol. Codir tâl am unrhyw ofynion ychwanegol ar ddiwrnod eich archeb. 
  6. Oriau agor yr Hwb Lles yw Dydd Llun i Ddydd Iau o 9am – 4.30pm a 9am – 4pm ar ddyddiau Gwener. Mae wedi cau ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul ar gyfer archebion oni bai fod trefniant wedi’i wneud ymlaen llaw. Gellir bod yn hyblyg o ran agor yr Hwb Lles yn gynt / cau yn hwyrach os y trefnir hyn ymlaen llaw; rhaid darparu manylion pan wneir yr archeb a gall hyn olygu tâl ychwanegol. 
  7. Bydd sesiwn yn cynnwys bore, prynhawn neu gyda’r nos.  Mae’r costau llogi fesul sesiwn a bydd sesiwn yn gyfnod o 3 awr. Dim ond ar yr amser a gytunwyd drwy’r archeb y gall llogwr fynychu’r Hwb Lles ac mae’n rhaid iddo adael yn brydlon ar ddiwedd yr amser a gytunwyd drwy’r archeb. 
  8. Mae llogwyr yn gyfrifol am oruchwylio’r rhai sy’n mynychu. Mae hyn yn cynnwys cymryd cofrestr o’r rhai sy’n mynychu a’u hymgyfarwyddo gyda’n gweithdrefnau diogelwch tân (gan gynnwys lleoliad larymau tân, allanfeydd mewn argyfwng, offer diogelwch tân a mannau ymgynnull oddi wrth yr adeilad). Cyfrifoldeb y llogwr yw sicrhau y bodlonir gofynion cymorth cyntaf. 
  9. Bydd angen i’r llogwr adael y safle mewn cyflwr taclus a boddhaol ar ddiwedd y cyfnod llogi.  
  10. Mae’r llogwr yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achoswyd i’r cyfleuster yn ystod y cyfnod llogi. Codir tâl ar y llogwr am gost lawn unrhyw ddifrod i'r eiddo neu gyfarpar. 
  11. Nid yw’r Hwb Lles yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw eitemau neu offer a gaiff eu dwyn neu eu colli ar ôl cael eu cludo i’r safle.
  12. Rydym yn cadw’r hawl i ganslo eich archeb heb rybudd os y bydd methiant i ddatgelu gweithgareddau a all achosi aflonyddwch i’r Hwb Lles a’r ganolfan yn ei chyfanrwydd. 
  13. Mae’n rhaid i chi ddatgelu unrhyw weithgaredd a all fod yn debygol o achosi tramgwydd. Rydym yn cadw’r hawl i ganslo eich digwyddiad ar sail y meini prawf hyn. 
  14. Mae’n rhaid cael caniatâd i ddod ag unrhyw offer trydanol i’r safle. Mae’r llogwr yn gyfrifol am gynnal gwiriad gweledol i weld a oes unrhyw arwydd o ddifrod cyn defnyddio’r offer. 
  15. Cyfrifoldeb y llogwr yw darparu trefniadau diogelwch addas. Rhaid darparu i’r Hwb Lles fanylion unrhyw fesurau diogelwch a fydd yn cael eu darparu a chedwir yr hawl i ganslo unrhyw archebion os bydd materion diogelwch wedi’u hamlygu.
  16. Mae lleoedd parcio ar gael mewn nifer o gyfleusterau parcio ceir cyhoeddus yng nghanol y dref. Nid yw’r Hwb Lles yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ffioedd parcio nac am unrhyw gosbau y cewch chi a / neu fynychwyr eich digwyddiad.
  17. Ni chaniateir ysmygu (na defnyddio sigaréts electronig na phinnau sigaréts electronig) mewn unrhyw ran o’r Hwb Lles.

Lleoliad

31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG

Oriau agor

Dydd Llun: 9am – 4pm
Dydd Mawrth: 9am – 4pm
Dydd Mercher: 9am – 4pm
Dydd Iau: 9am – 4pm
Dydd Gwener: 9am – 2pm

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i archebu ystafell/gofod.
E-bost: wellbeinghub@wrexham.gov.uk
Rhif ffôn: 01978 298110