Rydym ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn awyddus i benodi person lleyg i’n Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. 

O fis Mai 2022 ymlaen, bydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei gadeirio gan aelod lleyg. Mae lleygwyr yn aelodau annibynnol o’r cyhoedd.

Gallai hon fod yn rôl i chi os oes gennych ddiddordeb neu brofiad ym maes llywodraethu, archwilio, perfformiad neu reoli risg ac os hoffech ein helpu ni i sicrhau ein bod yn cael ein llywodraethu’n effeithiol.

Diffiniad o leygwr

Ar gyfer y rôl hon, mae lleygwr yn golygu nad yw’r person:

  1. Yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol,
  2. Ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeng mis yn gorffen ar ddyddiad y penodiad wedi bod yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol, nac
  3. Yn briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol.

Pwrpas y pwyllgor

Mae’r pwyllgor statudol hwn yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu a rhaglen wella’r awdurdod lleol.  

Mae’r pwyllgor yn darparu sicrwydd annibynnol ar:

  • ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg
  • yr amgylchedd rheoli mewnol
  • uniondeb y prosesau adrodd ariannol a llywodraethu  
  • asesu perfformiad
  • delio â chwynion 

Drwy oruchwylio’r gwaith archwilio mewnol ac allanol, mae’n helpu i sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol yn eu lle.

Tâl (cydnabyddiaeth ariannol)

Mae’r pwyllgor yn cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn ac mae aelodau lleyg yn cael eu talu am roi eu hamser.  

Mae’r tâl yn unol â’r cyfraddau mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn eu pennu.

Addasrwydd ymgeiswyr

Yn ogystal â bodloni diffiniad lleygwr, mae’n rhaid i chi fod yn anwleidyddol. Bydd angen i chi fod â dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan).

I wneud cais, mae’n rhaid i chi hefyd fod â’r rhinweddau canlynol:

  • Diddordeb a gwybodaeth am/profiad o reoli materion ariannol, risg a pherfformiad, archwilio, cysyniadau cyfrifeg a safonau, a’r drefn reoleiddio yng Nghymru
  • Meddwl gwrthrychol ac annibynnol gydag agwedd ddiduedd a’r gallu i ddefnyddio eich crebwyll eich hun
  • Cefnogi egwyddorion llywodraethu da a’u defnyddio'n ymarferol er mwyn cyflawni’r amcanion sefydliadol
  • Meddwl yn strategol a sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Gallu deall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio gyda pharch

Nid yw gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol yn angenrheidiol, er y byddem yn disgwyl i ddarpar ymgeiswyr fod â diddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus.  

Sut i ymgeisio

Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Ebrill 2024.

Ymgeisiwch rŵan