Ein nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn Wrecsam yn cael mynediad i ymarfer corff hwyliog, cymdeithasol a chynhwysol yn y gymuned, i annog cyfranogiad rheolaidd, a lleihau problemau yn ymwneud ag iechyd sy’n gysylltiedig ac anweithgarwch.

Cefnogaeth Clwb

Rydym yn cynnig cefnogaeth a chanllawiau i glybiau chwaraeon a sefydliadau yn Wrecsam, fel y gallant barhau i gynnig cyfleoedd a phrofiadau gwych i gymunedau lleol.

Drwy ddarparu cymorth gyda marchnata, datblygu’r clwb, recriwtio gwirfoddoli a cheisiadau cyllido, rydym yn bwriadu sicrhau bod ein darparwyr chwaraeon cymunedol yn parhau i dyfu a datblygu, gan sicrhau eu sefydlogrwydd a’u hirhoedledd, a hyrwyddo amrywiaeth eang o gyfleoedd i bawb yn Wrecsam.

Fel rhan o’n gwaith, rydym yn rhoi cyfle i sefydliadau fod yn rhan o gyfeiriadur ein clwb

Mae’r cyfeiriadur yn darparu rhestr ddefnyddiol o glybiau chwaraeon lleol i’r cyhoedd - gan ei gwneud yn haws i bobl ddysgu am, a chael mynediad i chwaraeon yn lleol.

Rydym yn bwriadu rhannu gwybodaeth hefyd am glybiau lleol drwy ein ‘canolbwyntio ar glybiau’ misol - gan rannu straeon newyddion da a gwybodaeth.

Cysylltwch â ni i ymuno â chyfeiriadur ein clwb i fod yn rhan o ‘ganolbwyntio ar glybiau’.

Ebost: activewrexham@wrexham.gov.uk.

Dolenni defnyddiol

Gweithgareddau cymunedol

Ein nod yw datblygu a darparu ystod eang o weithgareddau i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn Wrecsam yn cael mynediad i ymarfer corff hwyliog, cymdeithasol a chynhwysol, i annog cyfranogiad rheolaidd, a lleihau problemau yn ymwneud ag iechyd sy’n gysylltiedig ac anweithgarwch.

Mae rhaglenni’n cael eu llywio gan farn leol wrth i ni edrych at ddarparu cyfleoedd newydd o fewn cymunedau a llenwi bylchau o ran darpariaeth.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddarparu cyfleoedd amrywiol a hygyrch i bawb allu cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff o mewn y gymuned. Gwelwch gopi o’n hamserlen gyfredol.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth ar sut i fynd i unrhyw rai o’r sesiynau hyn, neu sut i gymryd rhan a chael mynediad i glybiau lleol, cysylltwch â ni.

Ebost: activewrexham@wrexham.gov.uk.

Cyfleoedd yn ystod gwyliau

Fel rhan o’n gwaith parhaus i ddarparu cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol hwyliog a chynhwysol, rydym eisiau sicrhau bod ystod eang o ddewisiadau ar gael, hyd yn oed yn ystod gwyliau.

Cadwch lygad ar lwyfannau ein cyfryngau cymdeithasol am ddigwyddiadau ar y gweill, yn ogystal â lluniau a fideos o’n gweithgareddau!

I archebu eich lle, ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Ebost: activewrexham@wrexham.gov.uk.

Llwybr Gwirfoddolwr Cymunedol

Mae Llwybr Gwirfoddolwyr Wrecsam Egnïol yn cynnig cyfle i wirfoddolwyr adeiladu eu profiadau o arweinyddiaeth mewn chwaraeon.

Bydd y rhaglen yn helpu gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth wrth wirfoddoli gyda chlybiau yn ardal Wrecsam.

Nid yn unig bydd y gwirfoddolwyr yn eu datblygu o fantais i chi o ran arweinyddiaeth chwaraeon ond hefyd mewn meysydd bywyd eraill fel yr ysgol a’r gwaith.

Beth bynnag fo’r gamp neu’r gweithgarwch corfforol yr hoffa wirfoddolwr gymryd rhan ynddo, byddwn yn eu cefnogi. 

Yr unig ofynion yw bod y clwb neu’r grŵp yn seiliedig ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a bod gwirfoddolwyr yn gwirfoddoli am o leiaf un awr bob tri mis. 

Bydd gofyn i wirfoddolwyr 16 mlwydd oed a hŷn gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd, cyn y gallwn eu caniatáu i wirfoddoli ar ein llwybr, ond mae hyn am ddim i wirfoddolwyr.

Amcanion y llwybr

  • Rhoi cyfle i wirfoddolwyr ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.
  • Tyfu a datblygu gweithlu cymwys a phrofiadol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
  • Darparu gweithlu ychwanegol i glybiau lleol.

Manteision i’r gwirfoddolwr

Prif flaenoriaeth y llwybr yw helpu unigolion i deimlo eu bod wedi gwella eu hyder a'u cymhwysedd o ran arweinyddiaeth mewn chwaraeon yn ystod eu hamser yn gwirfoddoli.

Bydd Wrecsam Egnïol yn helpu gwirfoddolwyr i gyflawni addysg hyfforddwr a Datblygiad Proffesiynol Parhaus. 
Bydd hyn yn cael ei ariannu’n uniongyrchol gennym ni, neu drwy gyfuniad ohonom ni a chlybiau cymunedol lleol - yn dibynnu ar y cymhwyster mae’r gwirfoddolwr yn ceisio ei gwblhau.

Nid oes yr un gwirfoddolwr yr un fath felly nid yw ein llwybr yr un fath i bawb ‘chwaith. Rydym yn helpu i ddatblygu llwybr yn seiliedig ar yr unigolyn, y gamp neu’r weithgarwch corfforol maen nhw’n gwirfoddoli ynddo a beth maent am ei gyflawni o wirfoddoli. 

Mae rolau gwirfoddoli’n cynnwys:

  • Cynorthwyo gydag arwain sesiynau
  • Dyfarnu
  • Gweinyddiaeth
  • Marchnata/Hyrwyddo

Mae cyfleoedd gwirfoddoli’n cynnwys:

  • Ysgolion Cynradd
  • Ysgolion Uwchradd
  • Canolfannau Hamdden 
  • Clybiau chwaraeon cymunedol 
  • Gwyliau, twrnameintiau a digwyddiadau

Bydd gwirfoddoli gyda Wrecsam Egnïol yn gwella eich CV, rhoi profiad o’r diwydiant hyfforddi chwaraeon/datblygu chwaraeon i chi, a datblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo i bob agwedd ar fywyd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, yna mae Wrecsam Egnïol eich heisiau chi.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth ar sut i gofrestru fel gwirfoddolwr gyda Wrecsam Egnïol.

Ebost: coachingandvolunteering@wrexham.gov.uk.