‘Cronfa Cymru Actif’ Chwaraeon Cymru

Mae dau fath o grantiau ar gael.

1. Diogelu

I helpu i amddiffyn clybiau a sefydliadau, neu grwpiau cymunedol sydd mewn perygl ariannol o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Mae grantiau prosiect o £300-£5000 ar gael ar gyfer cymorth mewn argyfwng, ar gyfer pethau megis:

  • Rhent
  • Costau cyfleustodau
  • Yswiriant
  • Costau llogi cyfleusterau neu gyfarpar (lle mae cost benodedig)
  • Gweithgareddau neu gostau nad oes modd i ffynonellau cyllid y Llywodraeth dalu amdanynt

2. Cynnydd

I helpu gyda datblygu chwaraeon a gweithgareddau i’r cam nesaf a chefnogi cynaliadwyedd tymor hir.
Bwriad y grant yw helpu clybiau a sefydliadau cymunedol:

  • Mynd i’r afael ag annhegwch.
  • Creu datrysiadau hirdymor er mwyn bod yn fwy cynaliadwy.
  • Defnyddio dulliau gweithredu arloesol.

Gall y grant Cynnydd ariannu eitemau sy’n hanfodol ar gyfer dychwelyd  chwarae hefyd.

Mae grantiau o £300 - £50,000* ar gael, a bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut bydd y cyllid yn datblygu eu chwaraeon neu weithgaredd, ac effeithio ar un o’r egwyddorion hyn o leiaf.

Bydd ceisiadau’n cael eu cefnogi os ydynt yn gallu dangos ffordd newydd o weithio i ddarparu eu chwaraeon.

Gall hyn gynnwys arloesedd o ran sut maent yn cael eu darparu, ymateb i heriau tymor canolig a hirdymor Covid-19, neu’r mathau o weithgareddau sy’n cael eu darparu.

Beth ellir ei ariannu?

Bydd angen i geisiadau gyd-fynd ag un o’r tri blaenoriaeth, o leiaf:

  • Mynd i’r afael ag annhegwch
  • Cynaliadwyedd tymor hir
  • Arloesi

Mae’r pethau y gellir eu hariannu’n cynnwys:

  • Gwneud gwelliannau neu addasiadau i gyfleusterau fel bod mwy o gyfleoedd i bobl chwarae neu hyfforddi.
  • Cyfleusterau newydd i alluogi cynnal rhagor o chwaraeon neu weithgareddau.
  • Defnyddio technoleg i ymgysylltu gyda chyfranogwyr fwy, megis darparu sesiynau ar-lein, neu ddefnyddio adnoddau ar-lein i helpu gyda chynhyrchu incwm.
  • Addysg hyfforddwr Lefel 1 lle bo tystiolaeth o’r galw.
  • Uwchsgilio gwirfoddolwyr pan mae gan y clwb fylchau o ran sgiliau neu brofiad.
  • Cyfarpar sy’n galluogi i fwy o bobl gymryd rhan.
  • Ffyrdd gwahanol ac arloesol y gellir darparu gweithgareddau.
  • Dulliau sy’n targedu grwpiau penodol nad ydynt yn cael eu tangynrychioli.

Beth na ellir ei ariannu?

Dylai ceisiadau sydd angen y caniatâd cyfreithiol angenrheidiol ddod gan y rhydd-ddaliad ei hun, neu’r lesddaliad â’r caniatâd angenrheidiol.

Mae’r pethau na ellir eu hariannu’n cynnwys:

  • Cyllid ôl-weithredol.
  • Eitemau personol e.e. cit chwarae, poteli dŵr, esgidiau, cyfarpar diogelu.
  • Dyfeisiau electronig personol (bydd dyfeisiau electronig yn cael eu hystyried yn unig pan fo tystiolaeth glir o sut y byddant yn rhan o ddatrysiad arloesol ar gyfer clwb neu weithgaredd).
  • Ceisiadau sy’n berthnasol i feini prawf Corff Llywodraethu Cenedlaethol e.e. eisteddfeydd, twll ymochel, rhwystrau.
  • Swyddi â chyflog.
  • Ffioedd ymgysylltiol.
  • Ceisiadau gan glybiau sy’n gysylltiedig â sefydliadau addysgol.

Bydd ffioedd proffesiynol yn unig sy’n berthnasol i oblygiadau statudol (ceisiadau cynllunio, rheoliadau adeiladu, ffioedd cyfreithiol) yn cael eu hystyried.

Crowdfunder - lle ar gyfer chwaraeon

Mae crowdfunder yn ffordd o godi pres ar gyfer achosion a syniadau da, gan helpu eich clwb neu brosiect i gysylltu gyda’ch cymuned.

Beth ellir ei ariannu?

Mae Chwaraeon Cymru wedi mynd i bartneriaeth gyda Crowdfunder i gefnogi clybiau a gweithgareddau cymunedol i godi pres ar gyfer gwneud gwelliannau i gyfleusterau.

Mae’r cynllun ar gyfer clybiau a grwpiau cymunedol nid er elw sy’n bwriadu codi pres ar gyfer gwelliannau ‘oddi ar y cae’. Er enghraifft: 

  • Ystafelloedd Newid 
  • Adnewyddu adeilad y clwb
  • Gwell cyfleusterau cegin i greu mwy incwm
  • Rheseli beiciau a storfa
  • Lifft a rampiau ar gyfer mynediad anabl gwell
  • Paneli solar
  • Generaduron
  • Boeler
  • Ffensys newydd

Sut mae Crowdfunder yn gweithio?

Mae clybiau a sefydliadau’n sefydlu tudalen ar wefan Crowdfunder, sy’n gofyn i bobl roi pres i’r achos neu syniad. 
Byddai’r syniadau o fudd i’r gymuned leol drwy wella cyfleusterau.

Bydd eich prosiect Crowdfunder yn cael ei asesu gan Chwaraeon Cymru, a all benderfynu pa lefel o arian cyfatebol byddwch yn gymwys ar ei gyfer, yn seiliedig ar wybodaeth gennych.

Os yw’r dudalen Crowdfunder wedi bodloni meini prawf penodol, bydd Chwaraeon Cymru yn cynnig arian cyfatebol o rhwng 30% a 50% o’r cyfanswm, hyd at uchafswm o £15,000 o arian cyfatebol.

Mae’r ganran y bydd Chwaraeon Cymru yn ei chynnig fel arian cyfatebol (30% - 50%) yn seiliedig ar botensial prosiect i fynd i’r afael ag annhegwch.