Beth mae’r cynllun yn ei gynnwys?

Mae tîm Wrecsam Egnïol Cyngor Wrecsam wedi cael grant gan Chwaraeon Cymru fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Pwysau Iach: Cymru Iach.

Bydd y sesiynau i rai 60+ yn galluogi pobl dros 60 oed yng Nghymru i fyw bywydau hirach, gwell a hapusach, gan wella eu lefelau gweithgarwch corfforol, eu hyder, eu cryfder a’u cydbwysedd. 

Mae tîm Wrecsam Egnïol, ynghyd â Freedom Leisure a Chanolfan Hamdden Plas Madoc, wedi ymrwymo i sicrhau bod gan boblogaeth hŷn Wrecsam ffordd o fyw iachach.

Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Byd Dŵr Wrecsam, Stadiwm Queensway, Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans, Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun a Chanolfan Hamdden Plas Madoc. Mae yna hefyd ddewis o sesiynau ar gael ar-lein dros Zoom. 

Mae gennym ni amrywiaeth o weithgareddau i chi roi cynnig arnyn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau campfa nofio ac ymarfer corff grŵp sy’n cael eu cynnal ar draws ein canolfannau mewn amgylchedd glân a diogel i chi eu mwynhau. 

Does dim angen unrhyw brofiad ymarfer corff arnoch chi i ymuno - bydd ein tîm yn eich arwain drwy’r sesiynau, ac wrth gwrs, mae croeso i aelodau cyfredol hefyd.

Beth yw'r manteision?

Dyma rai o’r rhesymau pam y dylech chi fynychu ein sesiynau ymarfer corff i bobl hŷn:

  • Rhoi hwb i’ch system imiwnedd.
  • Lleihau lefelau straen.
  • Cadw eich annibyniaeth.
  • Lleddfu poen.
  • Lleihau’r perygl o glefyd y galon a strôc. 
  • Lleihau’r perygl o gael diabetes math 2, rhai mathau o gancr, iselder a dementia.
  • Lleihau’r perygl o syrthio.
  • Cwrdd â ffrindiau newydd!
  • Rydym ni’n hyrwyddo cadw pellter cymdeithasol ymhob canolfan. 

Lle mae’r cynllun yn cael ei ddarparu?

  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr - 01978 297300
  • Stadiwm Queensway – 01978 355826
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans - 01978 288540
  • Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun - 01691 77866
  • Canolfan Hamdden Plas Madoc - 01978 821600

Os hoffech chi gymryd rhan yn ein sesiynau ymarfer corff ar-lein, cysylltwch â ni.

Ebost: Active60@wrexham.gov.uk.

Sut ydw i’n cael mynediad at y cynllun?

Cysylltwch â ni i ganfod pa sesiynau ymarfer corff 60+ sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn eich canolfan hamdden leol.

Ebost: Active60@wrexham.gov.uk.