Crynodeb o’r drwydded        

Mae’n rhaid i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol er mwyn rhedeg sw yng Nghymru.

Mae’n bosibl y codir ffioedd, a gall amodau gael eu rhoi ar y drwydded er mwyn sicrhau bod y sw yn cael ei redeg yn gywir.

Meini prawf cymhwysedd        

O leiaf dau fis cyn gwneud cais am drwydded, mae’n rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad ysgrifenedig (gan gynnwys drwy ddulliau electronig) i’r awdurdod lleol yn nodi ei fwriad i gyflwyno cais. Mae’n rhaid i’r hysbysiad nodi’r manylion canlynol:

  • lleoliad y sw
  • y mathau o anifeiliaid a tua faint o bob grŵp a fydd yn cael eu cadw i’w harddangos ar y safle a’r trefniadau ar gyfer lletya, lles a chynnal yr anifeiliaid
  • tua faint o bobl fydd yn cael eu cyflogi yn y sw a chategorïau’r staff
  • tua faint o ymwelwyr a cherbydau y bydd lle yn cael eu darparu ar eu cyfer
  • tua faint o fynedfeydd fydd yn cael eu darparu ar y safle, a’u lleoliad
  • sut bydd y mesurau cadwraeth gofynnol yn cael eu rhoi ar waith yn y sw

O leiaf dau fis cyn cyflwyno’r cais, mae’n rhaid i’r ymgeisydd hefyd gyhoeddi hysbysiad o’r bwriad hwnnw mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol ac arddangos copi o’r hysbysiad hwnnw. Mae’n rhaid i’r hysbysiad nodi lleoliad y sw a datgan bod yr hysbysiad o’r cais i’r awdurdod lleol ar gael i unrhyw un ei weld yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Wrth ystyried cais, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y canlynol, neu ar eu rhan:

  • yr ymgeisydd
  • prif swyddog yr heddlu yn yr ardal berthnasol
  • yr awdurdod priodol – un ai’r awdurdod gorfodi neu awdurdod perthnasol yn yr ardal lle bydd y sw yn cael ei leoli
  • corff llywodraethu unrhyw sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud â gweithrediad sŵau
  • os nad yw’r sw yn ardal yr awdurdod lleol sydd â’r pŵer i ganiatáu trwydded, yr awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal berthnasol (ac eithrio awdurdod cynllunio’r sir) neu, os yw’r ardal honno yng Nghymru, yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y sw arfaethedig
  • unrhyw un sy’n honni y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw yn yr ardal
  • unrhyw un sy’n datgan y byddai’r sw yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un sy’n byw gerllaw’r sw
  • unrhyw un arall y gallai ei sylwadau ddangos sail y pŵer neu ddyletswydd sydd gan yr awdurdod lleol i wrthod caniatáu trwydded

Cyn y gellir gwrthod neu ganiatáu trwydded, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ystyried unrhyw adroddiadau gan arolygwyr a luniwyd ar sail eu harchwiliad o’r sw, ac ymgynghori â’r ymgeisydd ynglŷn ag unrhyw amodau maent yn cynnig y dylid eu gosod ar y drwydded a gwneud trefniadau i gynnal archwiliad. Dylai’r awdurdod lleol roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd cyn cynnal yr archwiliad.

Ni fydd yr awdurdod lleol yn rhoi’r drwydded os bydd yn teimlo y byddai’r sw yn cael effaith niweidiol ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw gerllaw’r sw, neu’n cael effaith ddifrifol ar gadw cyfraith a threfn neu os nad yw’n fodlon y byddai mesurau cadwraeth priodol yn cael eu rhoi ar waith yn foddhaol.

Gellir gwrthod cais am y rhesymau canlynol hefyd:

  • nid yw’r awdurdod lleol yn fodlon bod safonau llety, staffio neu reoli yn addas ar gyfer gofal a lles yr anifeiliaid neu ar gyfer cynnal y sw yn gywir
  • mae’r ymgeisydd, neu os yw’r ymgeisydd yn gwmni corfforedig, y cwmni neu unrhyw un o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg eraill y cwmni, neu geidwad yn y sw, wedi cael eu heuogfarnu o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid

Bydd ceisiadau i adnewyddu trwydded yn cael eu hystyried ddim hwyrach na chwe mis cyn y daw’r drwydded gyfredol i ben, oni bai fod yr awdurdod lleol yn cytuno i ganiatáu cyfnod amser byrrach.

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl ymgynghori â’r awdurdod lleol, roi cyfarwyddyd i osod un neu ragor o amodau ar drwydded.

Gall yr awdurdod lleol hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd nifer bach yr anifeiliaid a gadwir y yn y sw neu’r nifer bach o’r mathau o anifeiliaid a gadwir yno, y dylid rhoi cyfarwyddyd nad oes angen trwydded.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd, mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu.

Dylech gysylltu â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Cyfnod cwblhau targed

60 diwrnod calendr.

Ffioedd

Trwydded sw: Dim ffi bendant

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR.

E-bost: public_protection_service@wrexham.gov.uk 

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd, gall apelio i lys ynadon lleol cyn pen 28 diwrnod ar ôl y dyddiad pan fydd yr ymgeisydd yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i wrthod.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall deilydd trwydded gyflwyno apêl i lys ynadon yn erbyn:

  • unrhyw amod ar y drwydded neu unrhyw amrywiad neu ganslo amod
  • gwrthod cymeradwyo trosglwyddo trwydded
  • cyfarwyddyd cau sw
  • camau gorfodaeth yn ymwneud ag unrhyw amod nad yw wedi cael ei fodloni

Mae’n rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae’r deilydd trwydded yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod yn ymwneud â’r mater perthnasol.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon). Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad i gau sw wneud cais i’r llys ynadon lleol. Rhaid apelio cyn pen 28 diwrnod o’r hysbysiad am benderfyniad yr awdurdod lleol.