Crynodeb o’r drwydded        

Er mwyn rhedeg siop ryw (rhywun sy’n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw) mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol. Er mwyn rhedeg canolfan lle dangosir ffilmiau ‘oedolion’ i’r cyhoedd, bydd angen i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol hefyd.

Fodd bynnag, gallwch wneud cais i’r awdurdod lleol yn gofyn iddo hepgor y gofyniad i gael trwydded.

Meini prawf cymhwysedd        

Mae’n rhaid i ymgeisydd fodloni’r amodau isod: 

  • rhaid iddo fod yn 18 oed o leiaf 
  • ni ddylai fod wedi’i wahardd rhag cael trwydded 
  • ni ddylai ei gais am drwydded neu cais i adnewyddu trwydded ar gyfer y safle dan sylw fod wedi’i wrthod yn ystod y 12 mis diwethaf, oni bai fod y penderfyniad i wrthod wedi cael ei wyrdroi yn dilyn apêl 

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Bydd ffioedd yn daladwy ar gyfer ceisiadau a gellir gosod amodau ar y drwydded.

Rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig) a rhaid cyflwyno’r wybodaeth y mae’r awdurdod lleol yn gofyn amdani, yn ogystal ag enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, ac os yw’r ymgeisydd yn unigolyn, ei oedran a chyfeiriad y safle.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr hysbysu’r cyhoedd am y cais drwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol.

A fydd cysyniad mud yn gymwys?

Na fydd. Er budd y cyhoedd, mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu.

Dylech gysylltu â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Cyfnod cwblhau targed

56 diwrnod calendr.

Ffioedd

  • Drwydded Safle Adloniant Rhyw Newydd: £1,353
  • Adnewyddu Trwydded Safle Adloniant Rhyw: (dim gwrthwynebiad £291
  • Adnewyddu Trwydded Safle Adloniant Rhyw: (gwrthwynebiad) £1,171
  • Amrywio Trwydded Safle Adloniant Rhyw: £193
  • Amrywio Trwydded Safle Adloniant Rhyw (gwrthwynebiad) £605
  • Drosglwyddo Trwydded Safle Adloniant Rhyw: £99
  • Drosglwyddo Trwydded Safle Adloniant Rhyw (gwrthwynebiad): £528
     

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

E-bost: licensingservice@wrexham.gov.uk 

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi trwydded iddo, neu y gwrthodwyd adnewyddu ei drwydded, gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael gwybod bod y cais wedi’i wrthod.

Fodd bynnag, nid yw’r hawl i apelio yn gymwys os cafodd y drwydded ei gwrthod ar y sail bod:

  • nifer y busnesau rhyw yn yr ardal yn fwy na’r nifer y mae’r awdurdod yn ei ystyried yn briodol 
  • byddai rhoi’r drwydded yn amhriodol o ystyried cymeriad yr ardal, natur eiddo eraill yn yr ardal, neu’r safle/busnes ei hun 

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall deilydd trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Yn yr Alban, gall deilydd trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod gyflwyno apêl i’r siryf lleol.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon). Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).

Gall deiliaid trwydded gyflwyno cais i’r awdurdod ar unrhyw adeg i amrywio telerau, amodau neu gyfyngiadau eu trwydded.

Os bydd cais i amrywio trwydded yn cael ei wrthod, neu os bydd y drwydded yn cael ei dirymu, gall deilydd y drwydded gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol, cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael ei hysbysu am yr amod neu’r cyfyngiad, neu’r penderfyniad i’w dirymu.

Gall deilydd trwydded gyflwyno apêl i Lys y Goron yn erbyn penderfyniad llys ynadon.

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Gall unrhyw un sy’n gwrthwynebu cais i roi, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded gyflwyno ei wrthwynebiad yn ysgrifenedig i’r awdurdod perthnasol, gan nodi sail y gwrthwynebiad, cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad y cais.