Crynodeb o’r drwydded        

Mae’n rhaid i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol i redeg busnes gwerthu anifeiliaid anwes. Mae hyn yn cynnwys pob dull o werthu anifeiliaid anwes yn fasnachol, gan gynnwys siopau anifeiliaid anwes a busnesau sy’n gwerthu anifeiliaid dros y rhyngrwyd.

Meini prawf cymhwysedd        

Ni ddylai pobl sy’n gwneud cais am drwydded siop anifeiliaid anwes fod wedi’u gwahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes.

Bydd ffi sy’n cael ei phennu gan yr Awdurdod Lleol yn daladwy wrth gyflwyno cais.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlynol wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid anwes:

  • y bydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn lle addas, er enghraifft mewn perthynas â thymheredd, maint, goleuo, awyru a glendid
  • y bydd bwyd a diod digonol yn cael eu darparu i’r anifeiliaid ac y byddant yn cael sylw ar amseroedd addas
  • na fydd unrhyw famaliaid yn cael eu gwerthu yn rhy ifanc
  • y bydd camau yn cael eu cymryd i atal afiechydon rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid
  • bod darpariaethau tân ac achosion brys digonol yn eu lle

Gellir gosod amodau ynghlwm â thrwydded i sicrhau cydymffurfiaeth â’r pwyntiau uchod.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

48 diwrnod calendr.

Ffioedd

Siop anifeiliaid anwes: £351.

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

E-bost: public_protection_service@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw unigolyn y gwrthodir trwydded iddo gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Gall llys roi cyfarwyddiadau ar ddarparu trwydded.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gall unrhyw ddeilydd trwydded sy’n gwrthwynebu amod sydd ynghlwm â thrwydded gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol yn yr ardal lle mae’r eiddo dan sylw. Gall y llys roi cyfarwyddiadau ar ddarparu amod.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).