Crynodeb o’r drwydded    

Mae’n rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod trwyddedu petroliwm lleol er mwyn rhedeg busnes lle mae petrol yn cael ei storio ar gyfer ei gyflenwi’n uniongyrchol i danc tanwydd injan tanio mewnol – neu lle mae llawer o betrol yn cael ei storio at ddefnydd preifat.

Dylid cyflwyno pob cais i Gyngor Wrecsam.

Mae ffioedd yn daladwy ar gyfer trwydded.

Gellir gosod amodau ar y drwydded.

Meini prawf cymhwysedd    

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd, mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. 

Dylech gysylltu â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Cyfnod cwblhau targed

56 diwrnod calendr.

Ffioedd

Petroliwm    

  • heb fod yn fwy na 2,500 litr: £46 y flwyddyn
  • mwy na 2,500 litr ond heb fod yn fwy na 50,000 litr: £62 y flwyddyn
  • mwy na 50,000 litr: £131 y flwyddyn
  • Trosglwyddo trwydded: £8

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Sir, Wrecsam LL11 1AY

E-bost: public_protection_service@wrexham.gov.uk 

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Os caiff cais ei wrthod, gall yr ymgeisydd apelio i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon). 

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol)