Crynodeb o’r drwydded        

Er mwyn gweithredu pont bwyso gyhoeddus, mae’n rhaid i chi gael tystysgrif cymhwysedd gan Brif Arolygydd Pwysau a Mesurau eich awdurdod cyhoeddus.

Meini prawf cymhwysedd        

Mae’n rhaid i chi feddu ar wybodaeth ddigonol i gyflawni eich dyletswydd yn gywir.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

28 diwrnod calendr.

Ffioedd

£68.95.

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

E-bost: public_protection_service@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Gallwch gyflwyno apêl i’r Swyddfa Fesur Wladol os gwrthodir eich cais.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).