Crynodeb o’r drwydded        

Er mwyn casglu arian o ddrws i ddrws at ddibenion elusennol yng Nghymru, mae’n rhaid i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol.

Meini prawf cymhwysedd        

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen a ragnodir gan yr awdurdod lleol.

Rhaid i chi fod yn unigolyn cymwys ac addas.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

21 diwrnod calendr.

Ffioedd

Dim ffi.

Manylion cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

E-bost: licensingservice@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Mae gennych yr hawl i apelio i weinidog Swyddfa’r Cabinet.

Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 14 diwrnod ar ôl dyddiad gwrthod y cais.
 

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Mae gennych yr hawl i apelio i weinidog Swyddfa’r Cabinet.

Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 14 diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad.
 

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).