Crynodeb o’r drwydded        

Er mwyn casglu arian neu werthu eitemau er budd elusennau neu ddibenion eraill yng Nghymru, mae’n rhaid i chi  gael trwydded casgliadau ar y stryd gan eich cyngor lleol.

Meini prawf cymhwysedd        

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

30 diwrnod calendr.

Ffioedd

Dim ffi.

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

E-bost: licensingservice@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).