Crynodeb o’r drwydded

Os ydych chi’n gweithredu safle bwyd, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael cymeradwyaeth gan eich awdurdod lleol. Er enghraifft, safle unigol (h.y. nad yw ynghlwm wrth ladd-dy, ffatri torri neu sefydliad sy'n trafod anifeiliaid hela). Cysylltwch â ni i weld a oes angen cymeradwyaeth arnoch.

  • ffatrïoedd prosesu cig
  • ffatrïoedd paratoi cig
  • gweithrediadau prosesu cig wedi’i friwio a ffatrïoedd prosesu cig wedi'i wahanu'n fecanyddol
  • storfeydd oer

Meini prawf cymhwyso

Dim darpariaeth mewn deddfwriaeth.

Crynodeb o’r rheoliad

Proses gwerthuso cais

Dim darpariaeth mewn deddfwriaeth.

A fydd caniatâd mud yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd, mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Dylech gysylltu â ni os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol o amser.

Gallwch wneud hyn ar-lein os ydych chi wedi gwneud cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes (dolen gyswllt allanol) neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Dyddiad cwblhau targed

35 diwrnod calendr.

Cyswllt

Rhif ffôn: 01978 298990

E-bost: public_protection_service@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Cwynion gan ddefnyddiwr

Byddwn bob amser yn cynghori os bydd cwyn, i chi gysylltu gyntaf â'r masnachwr - drwy lythyr (gyda phrawf dosbarthu). Os nad yw hyn wedi gweithio, a’ch bod wedi eich lleoli yn y DU, bydd Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth (dolen gyswllt allanol) yn rhoi cyngor i chi. 

Os ydych o du allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU (dolen gyswllt allanol).