Mae’n rhaid i chi gyflwyno cais am ‘Hysbysiad digwyddiad dros dro hwyr’ o leiaf 5 diwrnod gwaith llawn cyn y digwyddiad (ond ddim cynharach na 9 diwrnod gwaith llawn).

Os nad oes gennych drwydded bersonol, gallwch gyflwyno hyd at 2 Hysbysiad digwyddiad dros hwyr mewn blwyddyn. Os oes gennych drwydded bersonol, yr uchafswm yw 10. Mae Hysbysiadau digwyddiadau dros dro hwyr yn cyfrif at gyfanswm yr Hysbysiadau digwyddiadau dros dro a ganiateir.

Os bydd yr heddlu neu’r adran iechyd yr amgylchedd yn gwrthwynebu Hysbysiad digwyddiad dros dro hwyr, yna ni fydd yr hysbysiad yn ddilys ac ni allwch gynnal y digwyddiad, nid oes cyfle i wneud iawn am Hysbysiad digwyddiad dros dro hwyr.

Ffioedd 

Band ardrethol A (£0 - £4,300)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo £100     
  • Ffi adnewyddu blynyddol £70

Band ardrethol B (£4,301 - £33,000)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo £190     
  • Ffi adnewyddu blynyddol £180

Band ardrethol C (£33,001 - £87,000)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo £315     
  • Ffi adnewyddu blynyddol £295

Band ardrethol D (£87,001 - £125,000)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo £450     
  • Ffi adnewyddu blynyddol £320

Lle mae’r eiddo yn y band hwn yn fusnes sy’n gwerthu alcohol yn unig neu’n bennaf 

  • Trwydded/tystysgrif eiddo £900     
  • Ffi adnewyddu blynyddol £640

Band ardrethol E (£125,001 a throsodd)

  • Trwydded/tystysgrif eiddo £635    
  • Ffi adnewyddu blynyddol £350

Lle mae’r eiddo yn y band hwn yn fusnes sy’n gwerthu alcohol yn unig neu’n bennaf 

  • Trwydded/tystysgrif eiddo £1905     
  • Ffi adnewyddu blynyddol £1050

Gwneud cais ar-lein