Crynodeb o’r drwydded        

Os ydych yn rheoli safle annomestig mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am unrhyw dŵr oeri neu gyddwysydd anweddu (dyfeisiau hysbysadwy) ar y safle.

Rhaid i chi gyflwyno’r hysbysiad yn ysgrifenedig (gan gynnwys dulliau electronig) ar ffurflen wedi’i chymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae’n rhaid i chi roi hysbysiad yn ysgrifenedig i’r awdurdod lleol neu’r cyngor dosbarth/ynys am unrhyw newidiadau i’r hysbysiad cyn pen mis ar ôl y newid hwnnw.

Os bydd y ddyfais yn peidio â bod yn un hysbysadwy, mae’n rhaid i gyflwyno hysbysiad yn ysgrifenedig i’r awdurdod lleol neu’r cyngor dosbarth/ynys cyn gynted â phosibl.

Meini prawf cymhwysedd        

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

25 diwrnod calendr.

Ffioedd

Dim ffi.

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).