Crynodeb o’r drwydded      

Mae’n rhaid i chi gofrestru â’ch awdurdod lleol os ydych yn arddangos, defnyddio neu hyfforddi anifeiliaid sy’n perfformio yng Nghymru. 

Rhaid i’r ceisiadau gynnwys manylion am yr anifeiliaid a’r perfformiadau maent yn cymryd rhan ynddynt. Efallai y codir tâl am geisiadau. 

Meini prawf cymhwysedd        

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

48 diwrnod calendr.

Ffioedd

Anifeiliaid sy’n perfformio: £283.41.

Manylion cyswllt

Tîm Bwyd a Ffermio, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

E-bost: foodandfarming@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â Chyngor Wrecsam yn y lle cyntaf.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â Chyngor Wrecsam yn y lle cyntaf.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Gall swyddog heddlu neu swyddog o’r awdurdod lleol gwyno i’r llys ynadon lleol os yw’n credu bod anifeiliaid wedi cael eu trin yn greulon.