Crynodeb o’r drwydded        

Mae’n rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol er mwyn gosod byrddau, cadeiriau neu unrhyw ddodrefn arall dros dro ar y palmant yng Nghymru.

Gall amodau fod ynghlwm ac efallai bydd yn rhaid talu ffi.

Meini prawf cymhwysedd    

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid cael caniatâd blaen siop a mannau cerdded yn gyntaf.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso’r cais

Rhaid rhoi hysbysiad cyhoeddus o’r cais gan gynnwys manylion y cynnig a’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau.

Rhaid ystyried yr holl sylwadau a dderbynnir.

Rhaid ymgynghori ag unrhyw awdurdodau perthnasol eraill.

Ni ddylid gwrthod rhoi caniatâd yn afresymol.
 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

28 diwrnod calendr.

Ffioedd

Trwydded palmant    

  • 20 sedd neu fwy: £111
  • llai nag 20 sedd: £83.50
     

Cyswllt

Tîm Canol y Dref, Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BY

E-bost: wrexhammarkets@wrexham.gov.uk 

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Bydd cymrodeddwr penodedig yn penderfynu a yw’r caniatâd wedi cael ei wrthod yn afresymol.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Bydd cymrodeddwr penodedig yn penderfynu a oes anghytundeb ynghylch yr amodau sydd ynghlwm.
 

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych yn dymuno cwyno am unrhyw fater, rydym bob amser yn eich cynghori i gysylltu â’r masnachwr yn y lle cyntaf – trwy ysgrifennu llythyr yn ddelfrydol (gan ofyn am brawf bod y llythyr wedi cael ei ddanfon).

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, os ydych yn byw yn y Deyrnas Unedig gallwch gael cyngor gan Cyngor ar Bopeth (dolen gyswllt allanol). Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (dolen gyswllt allanol).