Crynodeb o’r drwydded        

Er mwyn cynnal sêl cist car efallai y bydd angen i chi gael awdurdod neu drwydded gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle cynhelir y sêl.

Meini prawf cymhwysedd        

Dim darpariaeth yn y rheoliadau.

Crynodeb o’r rheoliadau

Proses gwerthuso ceisiadau

Mae’n rhaid i ymgeiswyr roi o leiaf un mis o rybudd i’r cyngor dosbarth/bwrdeistref o’u bwriad i gynnal sêl cist car (neu i ganiatáu i’w tir gael ei ddefnyddio ar gyfer sêl cist car), oni bai fod elw’r sêl cist car am gael ei ddefnyddio’n bennaf neu’n gyfan gwbl at ddibenion elusennol, cymdeithasol, chwaraeon neu wleidyddol.

Rhaid cyflwyno ceisiadau ysgrifenedig (gan gynnwys drwy ddulliau electronig) a rhaid cynnwys enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, ble a phryd mae’n dymuno cynnal y sêl ac enw a chyfeiriad meddiannydd y safle hwnnw, os yw’n wahanol i’r ymgeisydd.
 

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Cyfnod cwblhau targed

60 diwrnod calendr.

Ffioedd

Sêl cist car: £16.

Cyswllt

Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.

E-bost: licensingservice@wrexham.gov.uk

Apelio yn erbyn cais a wrthodwyd

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Apêl gan ddeiliad y drwydded

Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.