Ymgeisio am drwydded

I wneud cais am drwydded i yrru cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni bydd arnoch chi angen lawrlwytho a llenwi’r ffurflenni perthnasol, yna’u hanfon i un o’r cyfeiriadau canlynol:

Ceisiadau gyrrwr hurio preifat, gweithredwr hurio preifat a cherbyd hurio preifat

Gwnewch gais ar-lein ar gyfer trwydded cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat

Depo Trafnidiaeth 
Ffordd yr Abaty 
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
Wrecsam
LL13 9PW

Pob cais arall

Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd
Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR

Ffurflenni cais

Datganiad polisi: gwybodaeth datgeliad

Mae angen Gwiriadau Cofnod Troseddol ar gyfer ceisiadau trwyddedu gyrwyr hurio preifat a cherbyd hacni, gweithredwyr llogi preifat a gweithredwyr achub cerbydau.

Mae ein datganiad polisi yn egluro sut mae gwybodaeth datgeliad yn cael ei thrin, defnyddio, storio a’i gwaredu.

Cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn

Rhestr o'r cerbydau sydd ar gael a ddynodwyd at ddibenion adran 165 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ffïoedd Ceisiadau Trwyddedu

Trwyddedau Gyrwyr a Cherbydau

Ffïoedd
Math Ffi
Trwydded mynediad i gerbydau £160
Cerbyd hurio preifat - newydd £251
Cerbyd hurio preifat - adnewyddu £201
Cerbyd hurio preifat - trosglwyddo perchenogaeth £36
Gyrrwr hurio preifat - newydd £290 am 3 mlynedd (£70 DBS/DVLA blaendal £220 gweddill)
Gyrrwr hurio preifat - adnewyddu £255 am 3 mlynedd (£70 DBS/DVLA blaendal £185 gweddill)
Cerbyd hacni - newydd £194
Cerbyd hacni - adnewyddu £175.50
Cerbyd hacni - trosglwyddo perchenogaeth £36
Gyrrwr cerbyd hacni - newydd £285 am 3 mlynedd (£70 DBS blaendal £215 gweddill)
Gyrrwr cerbyd hacni - adnewyddu £250 am 3 mlynedd (£70 DBS/DVLA blaendal £180 gweddill)
Ffi ailbrofi cerbyd hacni / hurio preifat £45
Colli apwyntiad £23

Trwyddedau newydd

Ffïoedd
Math Ffi
Plât cerbyd £7.50
Bathodyn gyrrwr £4
Cerdyn hunaniaeth gyrrwr £5
Arwydd ffenestr £6.50
Braced - clir £9.50
Braced - du £11

Trwyddedau gweithredwyr preifat

Ffïoedd
Math Ffi
1-9 cerbyd - newydd £500 am 5 mlynedd
Mwy na 10 cerbyd - newydd £1430 am 5 mlynedd
1-9 cerbyd - adnewyddu £462 am 5 mlynedd
Mwy na 10 cerbyd - adnewyddu £1400 am 5 mlynedd

Cysylltwch â ni drwy 

Ebost: taxiadmin@wrexham.gov.uk