Broughton – Cerney – Nant – Moss – Pentre Broughton

Oddeutu 4 ½ milltir / 2 awr 30 munud

Man cychwyn y daith gerdded hon yw Clwb Golff Dyffryn Moss LL11 6HA / Cyfeirnod Grid SJ308,536 g, sydd oddeutu 3 milltir o ganol tref Wrecsam, ac mae hi’n mynd trwy Broughton, trwy ardal wledig hardd ac ar hyd llwybrau coetir.  Wedyn mae’r llwybr yn mynd ar i lawr trwy ffermdir lle cewch chi olygfeydd bendigedig o Gresffordd, Gwastadeddau Sir Gaer a’r gwaith dur hanesyddol ym Mrymbo.

Cysylltwch â ni i gael PDF o’r llwybr hwn sy’n hwylus i’w argraffu.

Parcio

Mae parcio ar gael yn Clwb Golff Dyffryn Moss.

Bysiau

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

  • Sylwer:  gallai’r daith gerdded hon fod yn fwdlyd a llithrig mewn rhai mannau felly cofiwch wisgo esgidiau addas a chymryd pwyll.
  • Nid yw’r llwybr hwn yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn na chadeiriau gwthio.
  • Nid oes camfeydd ar y daith gerdded hon, ond mae grisiau, gatiau mochyn a llethrau serth arni.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.