Oddeutu 6 milltir / tua 3 awr.

  • Gallai’r daith gerdded hon fod yn fwdlyd a llithrig mewn rhai mannau felly cofiwch wisgo esgidiau addas a chymryd pwyll.
  • Nid yw’r llwybr hwn yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn na chadeiriau gwthio.
  • Nid oes camfeydd ar y daith gerdded hon, ond mae grisiau, gatiau mochyn a llethrau serth arni.

Amrywiaeth o dirwedd – caeau, lonydd, cyrion diwydiant. Addas o Ebrill i Medi fel un lôn, ac mae rhai o’r llwybrau yn tueddu i ddioddef llifogydd a gall fod yn fwdlyd iawn mewn mannau.   Mae angen esgidiau cerdded a choesarnau neu welingtons.

Cafodd  Eglwys Sant Paul ei hadeiladu yn 1829, ac mae’n cael ei hystyried yn esiampl dda o eglwysi plwyf y 19eg ganrif cynnar.    Adeiladwyd gyda brics brown gyda brics croes lliw goleuach, ac mae’n cynnwys tŵr wythonglog.   I’r de mae yna ardal gyda thir comin – Sutton Green sy’n wlyb ac yn gorsiog sydd o bosibl wedi ei atal rhag cael ei ddatblygu; nid yw cydlifiad afonydd Clywedog a’r Ddyfrdwy yn bell i ffwrdd.    Mae’r llwybr yn mynd o amgylch ymyl dwyreiniol yr Ystad Ddiwydiannol gyda’i gasgliad o fusnesau bach a mawr.

Cychwyn yn Eglwys Isycoed SJ405501

Taith ysgafn i’r de ar hyd y lôn am 2.3 cilomedr i Sutton Green.  Ar y gorwel dwyreiniol, gellir gweld cefn Tywodfaen Swydd Gaer, ac i’r gorllewin mae Mynydd Mwynglawdd. Yn y gyffordd T, ychydig i’r chwith mae yna arwydd llwybr troed.  Mae’r llwybr hwn ar hyd trac fferm, pont ar draws yr Afon Clywedog ac mae’r llwybr yn mynd drwy goed bach cymysg. Ar ôl cyrraedd lôn, trowch i’r dde ac yna i’r chwith ar hyd lôn arall. Gelwir hon yn Lôn Ddyfrllyd ac mae’n tueddu i ddioddef llifogydd mewn sawl lle a gall fod yn fwdlyd.    Mae’n ymuno â Lôn Groes i Ffordd Holt.

Trowch i’r chwith yma a chymerwch ofal wrth groesi i lôn arall gyda bythynnod ar hyd un ochr, enwir ar y map fel Talwrn. Mae’r lôn hon yn arwain i nifer o dai, gyda llwybr mwdlyd a gwlyb iawn; mae’n bosibl y bydd yna wartheg yma. Rydych yn croesi’r afon Clywedog eto.   Mae’r llwybr yn dod i ben ger ffens, ewch drwy’r giât a throwch i’r dde ar hyd llwybr wedi’i ffensio – cae ar y dde, ac arglawdd a ffensys ar y chwith (dyma Garchar y Berwyn). Gall y llwybr hwn fod yn wlyb mewn mannau.   Ar ôl cyrraedd ffordd gul gyda wyneb caled, trowch i’r chwith, parhewch am tua 375 metr nes byddwch yn gweld giât mochyn metel ar y dde.  Ewch drwy hon, ar draws iard i ffordd – Ffordd y Dderwen. (Os bydd y giât yn y iard wedi’i bachu gallwch fynd yn ôl a pharhau gyda’r ffordd gul, wrth gwrdd â phrif ffordd, trowch i’r dde, yna i’r dde eto yn y groesffordd ar Ffordd y Dderwen).

Trowch i’r dde a pharhau ar hyd palmant y ffordd hon am tua 0.65 cilomedr; cadwch olwg am yr arwydd Ffordd Gylchol, dyma’r ffordd ar ôl  Ffordd yr Abaty i’r De. Trowch i’r chwith i lawr Ffordd Gylchol, mae yna balmant yno, parhewch am tua 0.5 cilomedr i arwydd llwybr troed. Trowch i’r dde i lawr y llwybr llydan hwn wedi’i ffensio. Yn y pen hwn mae’n mynd o amgylch ymyl tir pori gwlyb i gyrraedd lôn yn Isycoed.   

Ychydig i’r chwith ar yr ochr arall mae yna arwydd ar gyfer llwybr troed. Mae hwn yn croesi dau gae i gyrraedd lôn arall. Trowch i’r dde. Yn y gyffordd nesaf, trowch i’r chwith, nawr gallwch weld yr eglwys eto; parhewch gyda’r lôn yn ôl i’r eglwys. 

Parcio

Lle i barcio ambell gar, ond nid ar ddydd Sul, mae Sutton Green yn rhy wlyb i barcio oddi ar y ffordd, efallai y bydd yna le parcio ar ymyl y ffordd ar yr ystâd ddiwydiannol.

Bysiau

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.