5.5 milltir / 3 awr.

Mae’r daith hon yn esgyniad ysgafn i fyny i Fynydd Esclusham gan fynd heibio i gronfeydd dŵr Tŷ Mawr a Chae-llwyd.  Mae’n cynnwys darn byr o rostir.  Mae’n dechrau ger y Sun Inn, Stryt y Neuadd, Rhosllannerchrugog (cyfeirnod grid 289468).

Mae’n bosibl cysylltu’r daith hon â Coedpoeth - Melin y Nant i Fronwylfa i greu taith 9 milltir.

Nid yw’r daith yn addas i gadeiriau olwyn, bygis na phlant bach.

Gwnewch yn siÿr nad yw eich ci’n crwydro o’r llwybrau troed. Cadwch eich ci ar dennyn pan fyddwch mewn caeau defaid ac ar y mynydd agored lle mae’n hawdd tarfu ar geiliogod y mynydd.

Parcio

Mae digon o le i barcio gerllaw.

Cludiant

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Tynnwyd y lluniau hyn wrth gerdded ar hyd y llwybr hwn.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.