Crwydr anodd dros y rhosydd i World's End, ynghyd â dau opsiwn byrrach

Crwydr 15½ milltir o Goedpoeth, ar gyfer cerddwyr profiadol yn unig (mae teithiau cerdded 12½ milltir ac 8 milltir ar gael hefyd).

Mae pobl wedi bod yn gofyn i ni am daith gerdded hirach ers tro.  Dyma hi, o’r diwedd.  Ond mae hon yn hir ac yn uchel, yn dringo i 565 metr (1853 troedfedd).

Mae’r daith yn cychwyn ym Melin y Nant ac yn dringo Dyffryn Clywedog i’r rhostir grug uwchben.  Mae yna ddewis o dair taith gerdded wedyn, pob un â golygfeydd da.  Nid oes angen i chi benderfynu pa daith i’w dilyn hyd nes i chi gyrraedd y rhos, oni bai bod y tywydd ac oriau dydd yn ystyriaethau.

Mae’r daith lawn yn 15½ milltir o hyd ac yn dringo 700 metr.  Fodd bynnag, mae yna ddwy daith lai ar gael a fyddai’n lleihau’r hyd i 12½ milltir ac uchder o 400 metr neu 8 milltir a dringo 300 metr.

Mae pob taith yn mynnu ychydig o gynllunio a gofal.  Yn y gaeaf ac yn ystod tywydd drwg yn gyffredinol, mae’n hanfodol eich bod yn gwylio rhagolygon tywydd.  Byddai dechrau’r teithiau hirach yn gynnar yn hanfodol yn y gaeaf neu bydd yn dywyll erbyn i chi orffen.  Nid yw’r teithiau cerdded hyn yn briodol i blant bach.

Gall fod yn oer ac yn wlyb ar y rhos; mae bob amser yn fwdlyd.  Gwisgwch esgidiau cerdded da a chariwch ddillad glaw, tortsh, chwiban, cwmpawd a bwyd.  Ewch â byrbryd gyda chi ar gyfer y daith 8 milltir a phrd da ar gyfer y teithiau cerdded 12½ a 15½ milltir.  Mae’r daith gerdded hiraf yn dod o fewn ¾ milltir o’r Ponderosa ar ben Yr Oernant.  Mae’r pellter ychwanegol yn werth chweil am y bwyd a’r toiledau.

Ceir nodiadau am barcio, cludiant cyhoeddus a thir mynediad yn y rhagair i gyfarwyddiadau’r daith gerdded.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost - ychwanegir detholiad o'r rhai gorau at yr oriel luniau. Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.