Oddeutu 4 ½ milltir / 2 awr 30 munud

Hawdd, digon o amrywiaeth a diddordeb. Gwastad yn bennaf gyda chamfeydd, gall fod yn fwdlyd mewn mannau ac yn yr haf efallai y bydd yn rhaid cerdded drwy gnydau.

Eglwys Santes Fair, Whitewell (gelwir hefyd yn Iscoyd) yn eglwys garreg wedi’i gwyngalchu, gynt yn ‘gapel lleddfu’ (lle mwy cyfleus) i blwyfolion Malpas yn Swydd Gaer.   Dyma’r unig eglwys Gymraeg yn esgobaeth Caer.   Cafodd y strwythur presennol ei adeiladu yn 1830 i ddisodli adeilad ffrâm coed blaenorol.   Mae’r meindwr a’r cloc yn dyddio yn ôl i 1898. Mae’r ddwy ffynnon (yn yr enw) i’r de o’r eglwys.  Gerllaw mae yna dwmwlws mawr (twmpa), a elwir yn Dwmpath Waren, mae’n debyg o fod yn domen gladdu yr Oes Efydd. Cafodd cyfres o felinau dŵr corn eu creu ar hyd Dyffryn Wych, Melin Llethr a’r Felin Wolvesacre gerllaw. Mae yna gofeb ryfel gyferbyn â Pharc Iscoyd gyda seddi i deithwyr blinedig.

Parcio

Efallai y bydd yna le i barcio un neu ddau o geir ger yr eglwys. Mae yna le arall i barcio ger y gyffordd yn Whitewell, i’r gogledd o Fferm Broad Oak.

Bysiau

Cychwyn yn Eglwys Whitewell SJ495414

Ewch drwy’r giât wiced ar gornel y gogledd orllewin o iard yr eglwys, ac ar draws cae mawr (gogledd orllewin) i fynedfa.

Trowch i’r dde yn y lôn, ar ôl tua 150 metr trowch i’r chwith.  Mae’r llwybr wedi’i arwyddbostio ac ar hyd y ffordd i Felin Llethr mae yna nodwyr llwybr ar gyfer Llwybr Maelor a WW 7 (Cerddwyr yr Eglwys Wen Llwybr 7).  Mae’r llwybr yn dilyn ymyl caeau (wedi eu tocio fel arfer), yn croesi pont droed; mae yna goed ar y dde yma.  Mae’r llwybr yn mynd i lawr arglawdd serth i giât wiced ger grid gwartheg; trowch i’r dde ar hyd y lôn hon.  Ger y gyffordd T, trowch i’r dde ac ar ôl ychydig fedrau trowch i’r chwith i groesi camfa.  Mae’r llwybr hwn yn croesi drwy bedwar cae i gyrraedd Melin Llethr (mae’n bosibl y bydd y caeau hyn wedi eu tocio ar adegau).

Trowch i’r dde a pharhau am bron i 1 cilomedr ar hyd llwybr heb ei selio nes byddwch yn cyrraedd lôn lle byddwch yn troi i’r chwith.  Mae’r lôn yn mynd heibio un o fynedfeydd i Barc Iscoyd ac ar y dde mae’r cofeb ryfel. Ychydig fedrau heibio’r gofeb, trowch i’r dde a bron yn syth wedyn trowch i’r chwith i fyny tramwyfa.  Ym mhen y dramwyfa trowch i’r chwith drwy giât ger bwthyn (o’r fan hyn i eglwys Whitewell mae’r llwybr wedi’i farcio gan nodwyr llwybr WW7). Ewch drwy gwrtil y bwthyn gyda’i stablau, i lawr drwy badog i gamfa. Mae yna ddau gau i’w croesi a all fod wedi eu tocio.   

Ar ôl cyrraedd y coed, ewch drwy giât wiced i lawr i bant, croeswch bont droed, mae’r llwybr yn troi i’r dde i gamfa (arhoswch ar y llwybr gan fod y goedwig yn garped o glychau’r gog). Croeswch y gamfa, ar draws y padog i lôn.
Trowch i’r dde yn y lôn, parhewch i Whitewell, gyda’r ganolfan gymunedol brics, yna trowch i’r dde drwy gât mochyn haearn hynafol.   I lawr drwy ddôl, croeswch y bont droed ac rydych yn ôl yn eglwys Whitewell.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.