Oddeutu. 8 1/2 milltir / 4 - 5 awr

Dechreua’r daith gerdded hon yng nghanol pentref Llanarmon sydd wedi ei lleoli yn Nyffryn Ceiriog uchaf.  Mae’n adnabyddus am ei dirwedd gwerthfawr, gan iddo fod yn hynod atyniadol ac wedi ei gadw â defnydd amaethyddol traddodiadol.  Mae hefyd yn ganolbwynt cryf i ddiwylliant Cymreig.

Mae’r daith yn mynd ar hyd rhai o’r golygfeydd gorau sydd gan y sir i’w cynnig ac fe’i argymhellir ar gyfer pobl sy’n mwynhau teithiau cerdded hirach.

Cyfarwyddiadau â char i’r man dechrau.

O’r Waun dechreuwch am Glyn Ceiriog ac oddi yno bydd llawer o arwyddion am Lanarmon.

Parcio

Dylai fod digon o le i barcio ar y stryd ym mhentref Llanarmon, felly peidiwch â pharcio yn yr ardal gerllaw’r Toiledau Cyhoeddus os gwelwch yn dda.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk