Taith gerdded amlycaf a mwyaf hyblyg Dyffryn Ceiriog

Os ydych chi’n dechrau o’r Waun, mae’n bosib cychwyn un ai o brif faes parcio’r dref (tu ôl gwesty’r Hand), yr orsaf drenau neu faes parcio Glyn Wylfa sydd ar Stryd y Castell (B4500), ger y draphont ddŵr. Mae pob cymal yn awgrymu cyflymder cerdded ar gyfartaledd, er mwyn i chi amcangyfrif hyd y daith.

Mi fydd y gwaith diweddar a wnaed ar y llwybr a’i gyffiniau yn helpu i gadw’r dyffryn yn boblogaidd gyda cherddwyr, ac yn denu mwy o ymwelwyr i’r ardal. Mi fydd hynny yn ei dro yn gymorth i fusnesau lleol. Mae’r amrywiaeth eang o lwybrau’n golygu bod yma rywbeth i bawb yn bendant.

Taith Gerdded Dyffryn Ceiriog yw llwybr amlycaf Partneriaeth Y Waun a Dyffryn Ceiriog. Mi ddaeth i fodolaeth bymtheg mlynedd yn ôl, gyda’r bwriad o gysylltu holl bentrefi’r dyffryn o’r Waun at Lanarmon ac yn ôl. Un o’i nodweddion amlycaf yw’r cyfleoedd i ddal trafnidiaeth gyhoeddus ar ei ddau ben ac mewn nifer o lefydd ar ei hyd.

Mae yna arwyddion a chyfleusterau bendigedig o’r dechrau hyd y diwedd, golygfeydd a thirwedd hyfryd a nodweddion hanesyddol amlwg. Mae’r daith hon yn un hanfodol ar gyfer cerddwyr o bob oedran a gallu.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost. Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon. Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun. Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.