Mae’r llwybr 4 milltir yn dechrau ym yr Tafarndy’r Duke of Wellington (cyfeirnod grid SJ 272 428) yn ymgysylltu traphont ddŵr Pontcysyllte sydd newydd gael ei dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd, â’r ardal wledig oddi amgylch. Mae’r cerddwyr hynny sy’n dymuno dewis taith gerdded fyrrach yn gallu rhoi cynnig ar y llwybr 1.5 milltir sy’n cynnwys naw o gatiau mochyn sy’n hawdd eu defnyddio.

  • Sylwch y gallai’r llwybr fod yn lleidiog mewn mannau a dylech wisgo esgidiau addas. Mae yna gamfeydd, llethrau serth a ffyrdd prysur i ymdopi â nhw hefyd.
  • Nid yw’r daith yn addas i gadeiriau olwyn, coetsys babanod na phlant bach.

Mae’r tai cyfagos yn cynnwys bythynnod o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn bennaf, ar gyfer gweithwyr yn niwydiannau traddodiadol yr ardal, sef chwareli calchfaen a gwneud briciau. Er bod y diwydiannau hyn wedi diflannu bellach, mae gan yr ardal archaeoleg ddiwydiannol gyfoethog.

Mae Basn Trefor yn agos ar ben gogleddol traphont ddŵr Pontcysyllte. Hyd at 1965, roedd gan y pentref orsaf reilffordd ar y rheilffordd o Riwabon i’r Bermo.

Mae’r daith yn mynd â chi drwy’r pentref, ar draws tir fferm agored, yn croesi afonydd a nentydd sisialog, ar hyd dyffrynnoedd coediog tawel, heibio i weddillion hanes amrywiol yr ardal.

Parcio

Mae ychydig o le parcio ar y stryd ger Tafarndy’r Duke of Wellington.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Map

Mae Map Explorer 256 yr Arolwg Ordnans yn cwmpasu’r ardal.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni.  Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.