Mae Corsydd Fenn, Whixall, Bettisfield, Wem a Cadney yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Wedi eu lleoli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr gerllaw Eglwys Wen (Whitchurch), mae o bwysigrwydd bywyd gwyllt rhyngwladol.  Mae’r corsydd hefyd yn un o’r cyforgorsydd iseldir mwyaf deheuol ym Mhrydain a chan ei fod yn 948 hectar (2,340 erw), y trydydd mwyaf.

Mae cyforgorsydd iseldir yn gromenni o fawn mwsogl y gors Sphagnum sy’n ehangu’n raddol ac sy’n bodoli ar ddŵr glaw’n unig.  Bydd mwsogl y gors yn amsugno ac yn asideiddio’r glaw, gan lenwi arwyneb y mawn â dŵr, ac felly planhigion ac anifeiliaid arbennig sy’n goroesi’n unig. Daw planhigion sy’n marw, ynghyd â phaill o’r llystyfiant sydd ar, ac o amgylch y gors, yn ‘bigog’ wrth i haenau o fawn ddatblygu fel cyfrolau anferth o hanes sy’n dilyn y 12,000 mlynedd diwethaf.

Bellach mae anifeiliaid a phlanhigion cyforgorsydd yn brin gan i nifer o gyforgorsydd gael eu draenio ar gyfer torri mawn, neu eu trosi yn dir amaethyddol neu goedwigaeth.  Mewn deng mlynedd, gall torri mawn ar gyfer garddio neu danwydd, ddileu mawn sydd wedi cymryd mil o flynyddoedd i’w ffurfio. 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Oriel

Tynnwyd y lluniau hyn wrth gerdded ar hyd y llwybr hwn.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni.  Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.