Gwersyllt, Coetiroedd, Caerau, Afonydd a Choed.

  • Sylwch y gallai’r llwybr fod yn lleidiog mewn mannau a dylech wisgo esgidiau addas. Mae yna gamfeydd, llethrau serth a ffyrdd prysur i ymdopi â nhw hefyd.
  • Nid yw’r daith yn addas i gadeiriau olwyn, coetsys babanod na phlant bach.
  • Mae’r Ganolfan Ymwelwyr ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun yn cynnig cyfle i’r ymwelydd gael rhywbeth i’w fwyta, prynu diod, defnyddio’r toiled neu godi taflen am y Parc a’r ardal o’i gwmpas. Un o’r ffeithiau diddorol y gallwch ei darganfod yw bod y Parc yn cynnwys un o’r coetiroedd cymunedol mwyaf yng Nghymru, a blannwyd yn y 1990au cynnar.

Mae’r daith yn dechrau ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, LL11 4AG (cyfeirnod grid SJ 319, 546) neu os ydych yn defnyddio’r trenau gallwch gychwyn y daith o’r orsaf ym Mhentref Gwersyllt (cyfeirnod grid SJ 318, 533). Mae Gwersyllt yn un o bentrefi mwyaf Wrecsam, wedi’i leoli rhyw 2 filltir i’r gogledd orllewin o ganol y dref. Tyfodd Gwersyllt yn gyflym oherwydd y diwydiant glo yn yr ardal. Ar un adeg roedd sawl pwll glo ar agor ac mae olion y rhain i’w gweld ar draws yr ardal heddiw.

Mae’r daith yn mynd â chi drwy’r pentref, ar draws tir fferm agored, yn croesi afonydd a nentydd sisialog, ar hyd dyffrynnoedd coediog tawel, heibio i weddillion hanes amrywiol yr ardal.

Parcio

Mae maes parcio bach ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Rheilffordd

Ffoniwch Linell Ymholiadau National Rail ar 03457 48 49 50 i gael amserau’r trenau i Orsaf Gwersyllt ac oddi yno.

Map

Mae Map Explorer 256 yr Arolwg Ordnans yn cwmpasu’r ardal.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni.  Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.