Bwlchgwyn – Nant-y-ffrith – Y Ffrith – Glascoed – Bwlchgwyn (5 milltir / 2.5 awr)

Mae’r daith hon yn dechrau ger Cofgolofn Bwlchgwyn (cyfeirnod grid SJ263536) ar yr A525 rhwng Wrecsam a Rhuthun.  Mae sawl golygfa fendigedig o Ddyffryn y Ffrith ac mae rhaeadrau trawiadol gerllaw.  Mae’r llwybr yn mynd trwy Black Wood a Nant Wood wrth ddisgyn i’r hen anheddiad Frythonaidd-Rufeinig yn y Ffrith, ac yn dychwelyd ar hyd llwybr ceffylau pwn a thros dir pori.  Mae sawl ardal o brydferthwch naturiol yn gwneud y daith yn un gwerth chweil unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Nid yw’r daith yn addas i bobl mewn cadeiriau olwyn, bygis na phlant bach.

Ceir

Mae digon o le i barcio ger y gofgolofn.

Bysiau

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru/ (dolen gyswllt allanol).

Map

Mae map Explorer 256 yr Arolwg Ordnans yn cwmpasu’r ardal.

Oriel

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni. Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.

Anfon ebost atom am y daith gerdded hon

Ebost: rightsofway@wrexham.gov.uk.