Llwybr - Brymbo a Bwlchgwyn (5 milltir / 3.5 awr) Brymbo – Mount Pleasant – Bwlchgwyn – Mynydd Seion - Brymbo

Mae’r daith hon yn cychwyn wrth dafarn y “George and Dragon” (cyfeirnod grid SJ 294541) ym mhentref Brymbo, ychydig o filltiroedd i’r gogledd orllewin o Wrecsam. Ceir golygfeydd panoramig rhagorol o Wrecsam a Gwastadedd Swydd Gaer ar y daith. Mae’r llwybr yn mynd trwy ddyffrynnoedd coediog deniadol ac yn croesi tir fferm agored, gan fynd heibio llawer o nodweddion yn deillio o orffennol diwydiannol yr ardal. Mae’r gymysgedd o gynefinoedd yn caniatáu i’r cerddwr cael profiadau newydd a gwahanol trwy’r tymhorau.

Sut i fynd i’r man cychwyn yn y car

Man Ewch ar yr A525 i gyfeiriad Rhuthun o ganol tref Wrecsam. Ar ôl cychwyn: croesi’r A483 trowch i’r ail ffordd ar y dde i gyfeiriad Brymbo. Trowch i’r ail ffordd ar y dde ar hyd y ffordd hon ar ôl tua milltir. Yn y gyffordd T trowch i’r dde ar y B5101. Ewch trwy bentref Lodge a thafarn “Y Tai” ar y dde, cyn troi i’r chwith i fyny’r allt ger arwydd cartref preswyl Pen y Garth. Trowch i’r dde a dilyn yr arwyddion maes parcio.

Parcio

Mae maes parcio bychan gyferbyn â’r ysgol ar y ffordd i’r dafarn. Gellir gweld y “George and Dragon” yn uwch i fyny’r allt ar yr ochr chwith o fynedfa’r maes parcio.

Bysiau

Ffoniwch traveline cymru am 0800 464 0000, ar text 84268, neu gweler www.cymraeg.traveline.cymru (dolen gyswllt allanol).

Map

Mae Map Explorer 256 Arolwg Ordnans yn cwmpasu'r ardal hon, ond bydd y darn a roddwyd i chi yn ddigonol ar gyfer y daith hon.

  • Dylid nodi y gallai'r llwybr yma fod yn fwdlyd mewn mannau ac argymhellir gwisgo esgidiau addas.
  • Dydy'r llwybr ddim yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, coetsys babi na phlant bach.

Anfonwch eich lluniau atom!

Anfonwch eich hoff luniau digidol o’r daith gerdded hon atom trwy’r e-bost.  Bydd detholiad o’r goreuon yn cael ei ddefnyddio i ddarlunio’r dudalen am y daith gerdded hon.  Bydd eich enw’n ymddangos o dan y llun.  Byddwn yn ystyried pob math o luniau – pobl, adeiladau, tirluniau, bywyd gwyllt – cyn belled a’ch bod wedi’u tynnu wrth ddilyn y daith gerdded hon.  Sicrhewch eich bod yn nodi pa daith gerdded y tynnwyd y lluniau arni.  Anfonwch eich lluniau at rightsofway@wrexham.gov.uk.

Ymwadiad

Wrth gyfrannu at ein tudalennau gwe am ein Parciau, Parciau Gwledig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Theithiau Cerdded byddwch yn cytuno i roi trwydded di-freindal, di-gyfyngedig i ni, i'n galluogi i gyhoeddi a defnyddio'r deunydd mewn unrhyw ffordd a thrwy unrhyw gyfrwng o'n dewis.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y byddwch yn parhau i fod yn berchen ar hawlfraint popeth a gyfrannwch at dudalennau'r we. Golyga hyn bod rhwydd hynt i chi gymryd yr hyn yr ydych wedi'i lunio a'i ailgyhoeddi rhywle arall. Cofiwch, os derbynnir eich delwedd, y byddwn yn cyhoeddi eich enw gyda'r llun ar wefan www.wrecsam.gov.uk. Ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam warantu y cyhoeddir pob llun ac rydym yn cadw'r hawl i olygu'ch sylwadau.